Llun drwy feicrosgop electron micrograff o'r firws Zika; mae gan bob un ddiametr o 40 nm gydag amlen feddal a chraidd mewnol caled. (Ffynhonnell: CDC).[1]
Model 'capsid' o'r Firws Zika, a liwiwyd gan gadwynau, PDB.[2]
Dosbarthiad firysau
Grŵp:
Grŵp IV ((+)ssRNA)
Teulu:
Flaviviridae
Genws:
Flavivirus
Rhywogaeth:
Y Firws Zika
Aelod o deulu'rFlaviviridae ydyw'r firws Zika (neu ZIKV) a'r genwsFlavivirus,[3][4] sy'n cael ei gario liw dydd gan y mosgitoAedes aegypti.[4] Daw'r enw Zika o'r Fforest Zika yn Wganda lle gwelwyd y firws yn 1947 am y tro cyntaf.[5]
O fewn bodau dynol, mae'r symtom cyntaf yn ddigon diddim didda ac ysgafn a gelwir ef yn 'dwymyn Zika', sydd wedi'i hastudio o fewn rhuban o dir o Affrica i Asia ers yr 1950au. Am ryw reswm, yn 2014, ymledodd y firws tua'r dwyrain ac ar draws y Cefnfor Tawel ac i Ynys y Pasg. Yn 2015 ymledodd ymhellach - i ganol America, y Caribî a De America, lle cafwyd epidemig y firws Zika.[6] Mae'r firws Zika yn perthyn yn eithaf agos i gwibgymalwst (neu 'deng'), y dwymyn felen, Japanese encephalitis a firws Gorllewin y Nil.[7] Mae'r dwymyn a geir yn ddigon tebyg i gwibgymalwst,[7] a chaiff ei thrin drwy orffwyso'r claf,[8] ond nid oes unrhyw feddyginiaeth a all ei gwella. Ceir cysylltiad rhwng y dwymyn Zika â Microceffali mewn babanod newydd eu geni, pan fo'r fam wedi'u heintio a throsglwyddir y firws i'r plentyn yn y groth.[9][10].
Aedes aegypti—math o fosgito sy'n cario'r firws Zika
Yn Ionawr 2016 cyhoeddodd Canolfan Atal Heintiau Unol Daleithiau'r America (CDC) ganllawiau manwl ynglŷn â theithio i'r gwledydd hynny lle mae'r firws yn rhemp, gan gynnwys cymryd gofal cyn dechrau'r daith, canllawiau i ferched beichiog gydag awgrym y dylent ganslo'r daith.[11][12] Dilynwyd y CDC gan nifer o gyrff tebyg mewn gwledydd eraill.[13][14]
Trosglwyddir y firws Zika gan fosgito yn y genws Aedes, fel yr A. aegypti sy'n weithgar yn ystod y dydd a'r mosgito A. africanus, A. apicoargenteus, A. furcifer, A. hensilli, A. luteocephalus, a'r A. vitattus sy'n byw mewn coedwigoedd. Dengys yr astudiaeth ddiweddaraf (2016) fod cyfnod deor i'r mosgitos hyn oddeutu 10 diwrnod. Wedi i'r pryfyn gael mynediad i'r corff dynol, drwy gyfathrach rhywiol, mae'n turio i mewn i gorff merch, ac i mewn i'w brych ac yn ymosod ar y ffetws cyn ei eni.