Gwobr Tony am yr Actores Orau mewn Sioe Gerdd, Gwobr Drama Desk ar gyfer Actores Eithriadol mewn Sioe Gerdd, Gwobr y 'Theatre World'
ActoresSeisnig-Americanaidd oedd Natasha Jane Richardson (11 Mai1963 – 18 Mawrth2009), a oedd yn adnabyddus am ei pherfformiadau ar lwyfan ac ar sgrîn. Roedd yn aelod o'r teulu Redgrave ac yn ferch i'r actores Vanessa Redgrave a'r cyfarwyddwr / cyhyrchydd Tony Richardson. Daeth Richardson yn enwog yn rhyngwladol pan berfformiodd ran Sally Bowles yn y sioe gerddChicago yn Ninas Efrog Newydd ym 1998.
Priododd yr actor Gwyddelig Liam Neeson ar ddiwedd 1994. Mae ganddynt ddau fab: Micheál a Daniel. Bu farw ei thad o afiechyd-cysylltiedig â AIDS ym 1991. Cododd Richardson miliynau o ddoleri yn y frwydr yn erbyn AIDS trwy'r elusen amfAR, y Sefydliad am Ymchwil AIDS. Bu farw Richardson yn 2009, yn 45 oed, o ganlyniad i anaf i'w hymennydd a ddigwyddodd tra'n sgïo yng Nghanada.