Drwmathon Owain Wyn Evans
- Erthygl
- Sgwrs
Roedd Drwmathon Owain Wyn Evans yn ddigwyddiad elusennol dan arweiniad y dyn tywydd a chyflwynydd teledu Owain Wyn Evans ar 12-13 Tachwedd 2021.[1]
Dechreuodd y drwmathon ar y sioe brecwast BBC1 am 8.35 ar 12 Tachwedd. Ymhlith y perfformwyr eraill oedd Harry Judd, Nick Banks, Al Murray,[2] a Cherisse Osei.[3] Cododd dros dair miliwn o bunnoedd am Plant Mewn Angen.[4] Torrodd Owain y record am gasglu arian am Plant Mewn Angen.[5]
Dwedodd ei fod wedi dechrau dysgu chwarae'r drymiau oherwydd ei fod yn cael ei fwlio yn yr ysgol. Mae e'n gobeithio newid barn boblogaidd am y math o berson sy'n chwarae'r drymiau.[6]