Ystlum

urdd o famaliaid sy'n hedfan
Ystlumod
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas:Animalia
Ffylwm:Chordata
Dosbarth:Mammalia
Urdd:Chiroptera
Blumenbach, 1779
Teuluoedd

Is-urdd: Megachiroptera

  • Pteropodidae (ystlumod ffrwythau)

Is-urdd: Microchiroptera

  • Craseonycteridae
  • Emballonuridae
  • Furipteridae
  • Megadermatidae
  • Miniopteridae
  • Molossidae
  • Mormoopidae
  • Mystacinidae
  • Myzopodidae
  • Natalidae
  • Noctilionidae
  • Nycteridae
  • Phyllostomidae
  • Rhinolophidae (ystlumod pedol)
  • Rhinopomatidae
  • Thyropteridae
  • Vespertilionidae

Mamaliaid sy'n gallu hedfan yw ystlumod (Chiroptera). Mae'r rhan fwyaf o ystlumod yn bwyta pryfed; mae rhywogaethau eraill yn bwydo ar ffrwythau, neithdar neu bysgod. Anifail nosol ydyw fel rheol. Mae'r ystlumod fampir o Dde America yn yfed gwaed. Ceir dros 900 o rywogaethau yn y byd, a cheir 16 rhywogaeth yn rheolaidd ym Mhrydain.

Cymru

O'r 18 rhywogaeth o'r mamaliaid hedegog hyn ym Mhrydain cofnodwyd 15 ohonynt yng Nghymru[1] yn cynnwys:

  • Ystlum adain lydan (Eptesicus serotinus)
  • Ystlum barfog (Myotis mystacinus)
  • Ystlum Bechstein (Myotis bechsteinii)
  • Ystlum Brandt (Myotis brandtii)
  • Ystlum du (Barbastella barbastellus)
  • Ystlum y dŵr (Myotis daubentonii)
  • Ystlum hirglust (Plecotus auritus)
  • Ystlum hirglust llwyd (Plecotus austriacus)
  • Ystlum Leisler (Nyctalus leisleri)
  • Ystlum lleiaf (Pipistrelle pipistrellus a Pipistrellus pygmaeus – dwy rywogaeth ar wahân)
  • Ystlum mawr (Nyctalus noctula)
  • Ystlum Natterer (Myotis nattereri)
  • Ystlum pedol mwyaf (Rhinolophus ferrumequinum)
  • Ystlum pedol lleiaf (Rhinolophus hipposideros)

Mae Cymru, felly, yn gartref i rai o'r ystlumod mwyaf prin gwledydd Prydain: yr ystlum pedol mwyaf, yr ystlum pedol lleiaf a'r ystlum du, sy'n rhywogaethau a warchodir gan ddeddfau Ewropeaidd. Mae 10 safle yng Nghymru wedi cael eu dynodi'n Ardaloedd Cadwraeth Arbennig fel rhan o rwydwaith 'Natura 2000' i ddiogelu cynefinoedd yr ystlumod anghyffredin hyn, a rheolir y cynefinoedd er mwyn amddiffyn y rhywogaethau gwahanol.

Ystlumod prin Cymru, a sut y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn eu gwarchod

Yr ystlym lleiaf a'r hirglust yw'r mwyaf cyffredin ac yn ddibynnol iawn ar adeiladau i glwydo ynddynt. Ystlymod pedol yn brin iawn, a'u cadarnleoedd Ewropeaidd yn ogystal â Phrydeinig yng Nghymru a'r Gororau. Oherwydd i ystlymod yn gyffredinol brinhau yn arw yn ystod yr 20g maent oll dan warchodaeth gyfreithiol erbyn hyn.

Coelion cefn gwlad

Yng Nghymru ystyrid gweld ystlymod yn arwydd o lwc dda a phriodas cyn pen y flwyddyn, ond yn anlwcus yn rhai ardaloedd os ehedent o gylch y pen. Roedd coel gyffredin - ond di-sail - y buasent yn mynd yn sownd yng ngwallt person, neu eu bod yn arwydd o dywydd braf os hedfan yn gynnar gyda'r nos.

Cyfeiriadau

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun a sgwennwyd ac a briodolir i Twm Elias ac a uwchlwythwyd ar Wicipedia gan Defnyddiwr:Twm Elias. Cyhoeddwyd y gwaith yn gyntaf yn : Gwyddoniadur Cymru (Gwasg y Brifysgol).



Chwiliwch am ystlum
yn Wiciadur.