Ysgol Uwchradd Llanrhymni
Ysgol uwchradd gymunedol cyfrwng Saesneg yn ardal Llanrhymni, Caerdydd oedd Ysgol Uwchradd Llanrhymni (Saesneg: Llanrumney High School).
Ysgol Uwchradd Llanrhymni | |
---|---|
Llanrumney High School | |
Adeiladau Ysgol Uwchradd Llanrhymni | |
Arwyddair | Educating for life[1] |
Sefydlwyd | 1950au |
Caewyd | 2013 |
Math | Uwchradd, y Wladwriaeth |
Cyfrwng iaith | Saesneg |
Lleoliad | Ball Road, Llanrhymni, Caerdydd, Cymru, CF3 4YW |
AALl | Cyngor Caerdydd |
Disgyblion | 647 (2006)[1] |
Rhyw | Cyd-addysgol |
Oedrannau | 11–16 |
Gwefan | http://www.llanrumney.cardiff.sch.uk |
Bu'n gwasanaethu ardaloedd Llanrhymni, Pentwyn a Llaneirwg yn nwyrain Caerdydd. Fe'i hagorwyd yn yr 1950au ynghyd ag Ysgol Uwchradd Tredelerch. Roedd yn ysgol gymysg ar gyfer disgyblion rhwng 11 ac 16 oed. Roedd 647 o ddisgyblion yn yr ysgol yn ystod arolygiad Estyn 2006, i gymharu â 774 yn 2000. Deuai 4% ohonynt o gefndir lleiafrif ethnig.[1]
Arwyddair yr ysgol oedd 'Educating for life'.[1]
Cau
Cyhoeddwyd cynnig stadudol i gau ysgolion uwchradd Llanrhymni a Tredelerch gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar 20 Mawrth 2009. Cofnodwyd 1258 o wrthwynebiadau yn ystod y cyfnod gwrthwynebu.[2] Roedd y rhesymau dros gau yn cynnwys y ffaith fod adeiladau'r ddwy ysgol yn hen ac mewn cyflwr gwael.
Caewyd yr ysgol ar ddiwedd tymor yr haf yn 2013. Trosglwyddwyd y disgyblion i Ysgol Uwchradd Tredelerch. Caeodd hithau yn haf 2014 pan agorwyd Ysgol Uwchradd y Dwyrain.[3]