Ysgol Uwchradd Gatholig Corpus Christi
Ysgol uwchradd cyfrwng Saesneg yn ardal Pentwyn, Caerdydd ydy Ysgol Uwchradd Gatholig Corpus Christi (Saesneg: Corpus Christi Roman Catholic High School; cyn-enw: Ysgol Uwchradd Gatholig y Fonesig Fair / Lady Mary Catholic High School). Y prifathro presennol ydy Mr Patrick Brunnock.[2]
Ysgol Uwchradd Gatholig Corpus Christi | |
---|---|
Corpus Christi Roman Catholic High School | |
Arwyddair | Together we are the body of Christ |
Ystyr yr arwyddair | Gyda'n gilydd, ni yw corff Crist |
Math | Cyfun, Gwirfoddol |
Cyfrwng iaith | Saesneg |
Crefydd | Catholig |
Pennaeth | Mr Patrick Brunnock |
Lleoliad | Heol Tŷ-Draw, Pentwyn, Caerdydd, Cymru, CF23 6XL |
AALl | Cyngor Dinas Caerdydd |
Disgyblion | 1035[1] |
Rhyw | Cyd-addysgol |
Oedrannau | 11–16 |
Lliwiau | Du a phiws/coch |
Gwefan | http://www.corpuschristi.cardiff.sch.uk |
Mae'r ysgol o dan reolaeth awdurdod addysg leol Caerdydd ond caiff ei ariannu'n wirfoddol. Mae'n gwasanaethu plant rhwng 11 ac 16 oed ar safle fawr a agorwyd ym 1995. Daw disgyblion yr ysgol o dalgylch eang sy'n cynnwys Cyncoed, Llysfaen, Waunadda, Llanedeyrn, Pentre-Baen a Phentwyn.[3]
Mae'n ysgol Gatholig ond caiff unrhyw ddisgyblion fynychu cyn belled a'u bod yn gyfforddus yn dysgu o fewn amgylchedd Cristnogol. Arwyddair yr ysgol ydy "Gyda'n gilydd ni yw corff Crist", sy'n cael ei gyfieithu i "Together we are the body of Christ" yn Saesneg.[1]
Nid oes gan yr ysgol chweched ddosbarth, mae'r mwyafrif o'r disgyblion yn mynd Goleg Gatholig Dewi Sant ar gyfer addysg bellach ar ôl gael eu TGAU.
Roedd 1035 o ddisgyblion yn yr ysgol ystod arolygiad Estyn 2003,[1] mae'r nifer hwn yn sefydlog gyda 1034 o ddisgyblion yn 2009.[3] Dim ond ychydig iawn ohonynt ddaeth o gefndiroedd lleiafrif ethnig.[1]
Disgrifiodd adroddiad Estyn 2003 safon y dysgu fel da, gyda'r myfyrwyr yn ymateb yn dda fel rheol. Roedd y canlyniadau TGAU yn sylweddol uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol yn 2003 a 2009.[1][3] Cydnabuwyd Ysgol Uwchradd Gatholig Corpus Christi fel yr un oedd wedi gwella fwyaf yn genedlaethol yn 2002.[1]
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
- Gwefan Ysgol Uwchradd Gatholig Corpus Christi Archifwyd 2011-03-09 yn Archif Gwe Llywodraeth y DU