Ysgol Penybryn, Tywyn

Ysgol gynradd Gymraeg yn Nhywyn, Gwynedd, yw Ysgol Penybryn.

Ysgol Penybryn
Sefydlwyd1860 (Towyn British School)
MathCynradd, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaithCymraeg
PennaethMenna Wynne Pugh
LleoliadFfordd Cadfan, Tywyn, Gwynedd, Cymru, LL36 9EF
AALlCyngor Gwynedd
Disgyblion211 (ym Medi 2012, gan gynnwys 12 o ddisgyblion yn y dosbarth meithrin)
RhywCyd-addysgol
Oedrannau3–11
Gwefanhttp://www.pbtywyn.gwynedd.sch.uk/

Cyffredinol

Fel yr awgryma'r enw, saif Ysgol Penybryn ar fryncyn nid nepell o ganol hanesyddol tref Tywyn.

Mae dalgylch yr ysgol yn cynnwys tref Tywyn ac (er Medi 2013) pentref Aberdyfi. Mae'r ysgol yn bwydo Ysgol Uwchradd Tywyn.

Yn 2010, deuai tuag 11% o'r disgyblion o aelwydydd oedd â'r Gymraeg yn brif iaith.[1]

Hanes

Agorwyd yr ysgol yn 1860 dan yr enw 'Towyn British School'. Yr adeilad gwreiddiol yw bloc gogleddol yr ysgol bresennol; adeiladwyd y prif floc arall yn 1900. Yn wreiddiol, tŷ'r prifathro oedd y tŷ sy'n dal i sefyll yn union i'r gogledd i'r ysgol.[2]

Yn ystod y 1860au, defnyddid y 'Welsh stick' (ffurf ar y Welsh Not) er mwyn cosbi plant a gafwyd yn siarad Cymraeg. Ond ymddengys na fu'r ymdrech hon i rwystro plant rhag siarad yr iaith yn llwyddiannus iawn.[3]

Cyfeiriadau

Dolenni allanol