Ysgol Pencae

Ysgol gynradd gymunedol cyfrwng Cymraeg yn ardal Highfields, Llandaf, Caerdydd ydy Ysgol Pencae. Agorodd yr ysgol yn ei hadeilad presennol ym 1991. Enillodd Farc Safon Sgiliau Allweddol yn 2000.[1] Y prifathro presennol yw Mr Richard Thomas.[2]

Ysgol Pencae
ArwyddairYmdrech a Lwydda
Sefydlwyd1991
MathCynradd, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaithCymraeg
PennaethMr Richard Carbis
CadeiryddMrs Liz Jones
LleoliadHighfields, Heol Gillian, Llandaf, Caerdydd, Cymru, CF5 2QA
AALlCyngor Caerdydd
Disgyblion197 (2003)[1]
RhywCyd-addysgol
Oedrannau4–11
Gwefanysgolpencae.cardiff.sch.uk
Ysgol Pencae, 2022

Roedd 197 o ddisgyblion yn yr ysgol yn ystod arolygiad Estyn 2003, daeth tua 35% o'r disgyblion o gartrefi lle roedd y Gymraeg yn brif iaith.[1]

Mae'r ysgol wedi ei lleoli yn ardal Highfields, Llandaf ar safle hen ysgol, Ysgol Gynradd Gymraeg Bryntaf, sef ysgol Gymraeg gyntaf erioed Caerdydd a sefydlwyd wedi ymdrech hir gan seflogion fel Gwyn M. Daniel.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.