Ysgol Gynradd Rhydypenau


Ysgol gynradd gymunedol cyfrwng Saesneg yn ardal Cyncoed, Caerdydd ydy Ysgol Gynradd Rhydypenau (Saesneg: Rhydypenau Primary School). Mae'n gwasanaethu plant 3–11 oed yn ardal Cyncoed.[2] Addysgir y plant meithrin a'r dosbarth derbyn yn yr adeilad gwreiddiol parhaol a adeiladwyd yn 1936 ar gyfer tua 160 o ddisgyblion. Mae gweddill y disgyblion yn cael eu addysgu mewn adeiladau dros-dro a adeiladwyd yn ystod yr 1940au a'r 1960au.[1]

Ysgol Gynradd Rhydypenau
Rhydypenau Primary School
Sefydlwyd1936
MathCynradd, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaithSaesneg
PennaethCarolyn A Evans
LleoliadFidlas Avenue, Cyncoed, Caerdydd, Cymru, CF14 0NX
AALlCyngor Caerdydd
Disgyblion441 (2005)[1]
RhywCyd-addysgol
Oedrannau3–11
Gwefanhttp://www.rhydypenauprm.cardiff.sch.uk

Roedd 441 o ddisgyblion ar gofrestr yr ysgol erbyn Tachwedd 2005, ac yn ychwanegol, 78 o blant meithrin yn mynychu yn rhan amser. Daeth 10% o'r disgyblion o gartrefi lle siaradwyd y Saesneg fel ail-iaith. Cafodd yr ysgol ei feirniadu'n hallt yn adroddiad Estyn a gyhoeddwyd yn 2006, am ddiffyg eu defnydd a dysgu o'r Gymraeg fel ail-iaith, ac am beidio creu digon o ymwybyddiaeth am Gymru a'i diwylliant.[1]

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.