Ysgol Gymunedol Gwenlli
Ysgol gynradd gymunedol ddwyieithog yng nghymuned Synod Inn, Ceredigion oedd Ysgol Gymunedol Gwenlli.
Enghraifft o'r canlynol | ysgol gynradd |
---|---|
Rhanbarth | Ceredigion |
Sefydlwyd ysgol yn Synod Inn gyntaf ym 1866, ond mewn hen fwthyn, tebycach i ysgubor, o'r enw Cnwc y Pwrpas y darparwyd yr addysg. Saif hwnnw tua 200 llath o groesffordd Synod Inn tuag at Llanarth.[1][2]
Agorwyd Ysgol Gwenlli ar 20 Ebrill 1877, er nad oedd yr adeilad wedi ei gwblahu. Roedd un ystafell wedi ei chynllunio ar gyfer 70 o blant. Roedd 17 o ddisgyblion ar y gofrestr ac 11 yn bresennol ar y diwrnod cyntaf yng nghofal y prifathro Thomas Cadwalader Evans, ac athrawes gwnio, Miss Mary Evans.[1] Codwyd cloch yn 1902 ac roedd hwn yn dal yno 125 mlynedd yn ddiweddarach. Penderfynnwyd bod angen ystafell ychwanegol a dechreuodd y gwaith arni ym 1903, ond ni gwblhawyd hyd 1911.[2]
Roedd 31 o ddisgyblion ar gofrestr yr ysgol yn 2003. Daeth 50% ohonynt o gartrefi lle roedd y Saesneg yn brif iaith, ond roedd 80% ohonynt yn siarad Cymraeg i safon cyfatebol ac iaith gyntaf. Roedd adroddiad Estyn o 1998 yn disgrifio rhai agweddau o'r addysg a ddarparwyd yn anfoddhaol, a doedd dim digon o ddefnydd o'r Gymraeg. Nid oedd yr adeiladau bellach yn addas chwaith, nid oedd neuadd yn yr ysgol o gwbl, na thoiledau yn y brif adeilad.[3]
Caewyd yr ysgol ym mis Ionawr 2010, ynghyd ag Ysgol Gymunedol Llanllwchaearn ac Ysgol Gymunedol y Castell, Caerwedros, gydag ysgol newydd Ysgol Bro Siôn Cwilt yn Synod Inn yn cymryd eu lle.[4][5]