Ysgol Gymunedol Cwmtawe
Ysgol uwchradd gymunedol cyfrwng Saesneg yw Ysgol Gymunedol Cwmtawe, sy'n gwasanaethu plant rhwng 11 ac 16 oed yn ardal Pontardawe. Mae 70 o athrawon a tua 1200 disgybl yn yr ysgol.
Symudodd yr ysgol i adeiladau newydd ym 1996, a defnyddir ei hen adeiladau gan Ysgol Gynradd Gymraeg Pontardawe. Enillodd Cwmtawe wobr ysgolion-eco ar gyfer ysgolion sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd, sy'n seiliedig ar welliannau i'r amgylchedd, dolenni'r gymuned a'r cwricwlwm yn ogystal ag arbed arian a chodi ymwybyddiaeth.[1]
Mae canlyniadau Cyfnod Allweddol 3 a TGAU Cwmtawe yn rhagori'r targedau a osodir ar gyfer Cymru.[2] Roedd yr ysgol yn 113fed safle yng Nghymru ar gyfer pasiadau TGAU (yn seiliedig ar 5 TGAU, gradd A-C). Ers hynny mae'r canlyniadau wedi gwella'n sylweddol yn ôl adroddiad Estyn, mae'r raddfa pasiadau TGAU yn 73%, gan ei roi'n gyfartal 17fed yng Nghymru (ac o fewn y 10% o'r holl ysgolion).
Ysgolion Cynradd yn Nhalgylch yr Ysgol
- Ysgol Gynradd Alltwen
- Ysgol Gynradd Llangiwg
- Ysgol Gynradd Godre Graig
- Ysgol Gynradd Rhydyfro
- Ysgol Gynradd Rhos
Cyn-ddisgyblion o nôd
- Bleddyn Bowen, chwaraewr rygbi'r undeb[3]
- Aled Brew, chwaraewr rygbi'r undeb[3]
- Gareth Edwards, chwaraewr rygbi'r undeb[3]
- James Griffiths, chwaraewr rygbi'r undeb[3]
- Robert Jones, chwaraewr rygbi'r undeb[3]
- Joanne Melen, enillydd medal Judo Gemau'r Gymanwlad[3]
- Andrew Phillips, actor
- Elgan Rees, chwaraewr rygbi'r undeb[3]
- Arwel Thomas, chwaraewr rygbi'r undeb[3]
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
- Gwefan yr ysgol Archifwyd 2008-12-05 yn y Peiriant Wayback.