Ysgol Gyfun y Barri

Ysgol uwchradd gyfun cyfrwng Saesneg ar gyfer bechgyn yn y Barri, Bro Morgannwg ydy Ysgol Gyfun y Barri (Saesneg: Barry Comprehensive School). Lleolir yr ysgol gyferbyn a Highlight Park yng ngogledd y dref. Mae ysgol ferched Ysgol Gyfun Bryn Hafren yn bartner i'r ysgol, ac yno darparir chweched dosbarth cyd-addysgol ar gyfer y ddwy ysgol.

Ysgol Gyfun y Barri
Barry Comprehensive School
MathCyfun, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaithSaesneg
PennaethDavid Swallow OBE[1]
LleoliadPort Road West, Y Barri, Bro Morgannwg, Cymru, CF62 8ZJ
AALlBro Morgannwg
RhywBechgyn
Oedrannau11–18
Gwefanhttp://www.barrycomp.com

Mae'r ysgol wedi'i lleoli ar un safle ers 2000, ond ymestynwyd a datblygwyd hi gryn dipyn.

Addysg

Derbyniodd yr ysgol asesiad gyffredinol Gradd 1 gan Estyn yn 2007, sef y raddfa uchaf. Disgrifiwyd hi fel "ysgol dda gyda nodweddion rhagorol sy'n mynd o nerth i nerth dan arweinyddiaeth ei phennaeth, David Swallow".[2] Yng ngwanwyn 2006 enwyd Ysgol Gyfun y Barri, am y trydydd blwyddyn yn ganlynol, fel yr ysgol oedd wedi gwella fwyaf yng Nghymru.[3][4][5][6]

Derbyniodd y prifathro, David Swallow, OBE ym mis Mehefin 2003, am ei gyfraniad i addysg.[1]

Roedd yr ysgol un un o'r sawl a ddewiswyd i fod yn rhan o gynllun peilot Bagloriaeth Cymru.[7] Mae'r ysgol wedi cyflwyno cynllun mentora rhifyddeg, ar gyfer bechgyn blwyddyn 8, gyda staff gwaith cemegon Dow Corning gerllaw.[8]

Mae Ysgol Gyfun y Barri wedi ei efeillio gyda De Soysa Vidyalaya Moratuwa yn Sri Lanca.[9]

Sefydlwyd partneriaeth datblygu rhwng yr ysgol a C.P.D. Tref y Barri yn 2004.[10]


Cyn-ddisgyblion nodedig

  • Derek Brockway - dyn tywydd a cyflwynydd teledu
  • Gerran Howell - actor
  • Kayne McLaggon - chwaraewr pêl-droed

Cyfeiriadau

Dolenni allanol