Ysgol Gyfun Tre-Gib

Ysgol uwchradd yn Ffairfach ger Llandeilo, Sir Gaerfyrddin oedd Ysgol Gyfun Tre-Gib. Roedd yn ysgol gymunedol ddwyieithog naturiol.

Ysgol Gyfun Tre-Gib
MathCyfun, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaithDwyieithog, Cymraeg a Saesneg
LleoliadFfairfach, Llandeilo, Sir Gaerfyrddin, Cymru
Disgyblion989 (2009)[1]
RhywCyd-addysgol
Oedrannau11–18
Gwefantregib.amdro.org.uk

Roedd 900 o ddisgyblion yn yr ysgol yn 1997, a 130 yn y chweched ddosbarth.[2] Cynyddodd hyn i 932 yn 2003, a 142 yn y chweched ddosbarth. Erbyn 2009 roedd 989 o ddisgyblion, gyda 161 yn y chweched dosbarth.[1]

Dywedodd adroddiad Estyn 2003 y daeth tua 12% o'r disgyblion o gartrefi lle roedd y Gymraeg yn brif iaith, a siaradai 45% o'r disgyblion y Gymraeg i safon iaith gyntaf.[2] Roedd presenoldeb y Gymraeg wedi ei chryfau erbyn 2009, pryd tybier y daw 15% o gartrefi lle mae'r Gymraeg yn brif iaith, a siaradai 55% o'r disgyblion y Gymraeg i safon iaith gyntaf.[1]

Cyn-ddisgyblion o nôd

Cyfeiriadau

Dolenni allanol