Ysgol Dafydd Llwyd

Ysgol gynradd cyfrwng Gymraeg yn y Drenewydd yw Ysgol Dafydd Llwyd, ar gyfer plant rhwng 3 ac 11 oed. Hon oedd yr ysgol ddynodedig Gymraeg gyntaf yng ngogledd Powys. Agorwyd ar 28 Medi 2001, gyda Penri Roberts yn brifathro,[2] sef enillydd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Dinbych 2001.[3] Yn Ionawr 2016 agorwyd ysgol newydd sbon, ar gost o £8.5m ac roedd 250 o ddisgyblion ar y gofrestr.[4]

Ysgol Dafydd Llwyd
Sefydlwyd2001
MathCynradd, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaithCymraeg
PennaethSiân Davies
LleoliadLôn y Blanhigfa / Lôn Dolfor, Y Drenewydd, Powys[1], Cymru, SY16 1JF
AALlCyngor Sir Powys
RhywCyd-addysgol
Oedrannau3–11
Gwefanhttp://www.dafyddllwyd.powys.sch.uk/

Enwyd yr ysgol ar ôl y bardd Dafydd Llwyd ab Einion a fu'n byw yn yr ardal tua 1446.[5][6]

Yn 2010, adroddodd Estyn fod yr ysgol yn gweithedu mewn pump o adeiladau ar wahân, ar yr un campws a dwy ysgol arall, gan gynnwys dau gaban dros dro.[7] Datganwyd ar 14 Chwefror 2012 y byddai adeilad newydd yn cael ei godi ar ei chyfer gyferbyn â'r ysgol uwchradd.[8] Erbyn 2010, roedd 149 o ddisgyblion yn yr ysgol, gan gynnwys disgyblion oed meithrin amser llawn, a daeth 38% ohonynt o gartrefi ble roedd y Gymraeg yn brif iaith y cartref.[7] Bydd lle i 270 o ddisgyblion yn adeilad newydd yr ysgol.[8]

Cyfeiriadau

Dolenni allanol