Ysglyfaethwr

Carnivora
Dosbarthiad gwyddonol
Parth:Eukaryota
Teyrnas:Animalia
Ffylwm:Chordata
Dosbarth:Mammalia
Inffradosbarth:Eutheria
Uwchurdd:Laurasiatheria
Urdd:Carnivora
Bowdich, 1821
Teuluoedd

 Felidae
 Viverridae
 Eupleridae
 Nandiniidae
 Herpestidae
 Hyaenidae
 Canidae
 Ursidae
 Otariidae
 Phocidae
 Odobenidae
 Mustelidae
 Mephitidae
 Procyonidae
 Ailuridae

Mae mwy na 280 o rywogaethau o famal yn yr urdd Carnivora.[1] Mae'r mwyafrif yn gigysol fel teulu'r gath ac yn bwyta cig yn bennaf. Eithriad yw'r panda anferth sy'n bwyta blagur a dail yn bennaf. Hollysyddion yw rhai rhywogaethau fel yr eirth a'r llwynogod. Yng Nghymru ceir 7 cigysydd.

Mae ffurf penglog a dannedd yr anifeiliaid hyn yn arbennig.

Dosbarthiad

  • Urdd CARNIVORA
    • Is-urdd Feliformia
      • Teulu Felidae: cathod; 40 rhywogaeth
      • Teulu Viverridae: cathod mwsg; 35 rhywogaeth
      • Teulu Eupleridae: cigysyddion Madagasgar; 8 rhywogaeth
      • Teulu Nandiniidae: cath fwsg y palmwydd; 1 rywogaeth
      • Teulu Herpestidae: mongwsiaid; 33 rhywogaeth
      • Teulu Hyaenidae: udfilod; 4 rhywogaeth
    • Is-urdd Caniformia
      • Teulu Canidae: cŵn; 35 rhywogaeth
      • Teulu Ursidae: eirth, panda anferth; 8 rhywogaeth
      • Teulu Otariidae*: morlewod a morloi manflewog; 16 rhywogaeth
      • Teulu Odobenidae*: morlo ysgithrog neu walrws; 1 rywogaeth
      • Teulu Phocidae*: gwir forloi; 19 rhywogaeth
      • Teulu Mustelidae: ffured, brochod, dwrgwn a pherthnasau; 59 rhywogaeth
      • Teulu Mephitidae: drewgwn; 11 rhywogaeth
      • Teulu Procyonidae: racwniaid a pherthnasau; 14 rhywogaeth
      • Teulu Ailuridae: panda coch; 1 rywogaeth

* Ystyriwyd y teuluoedd hyn (y Pinnipedia) yn urdd gwahanol yn y gorffennol.

Cymru

Ceir 7 cigysydd yng Nghymru: y llwynog, ffwlbart, carlwm, bele'r coed, gwenci, mochyn daear a dyfrgi.[2] Roedd y gath wyllt i'w gael hyd at yr 19g a'r blaidd hyd at y 18g.

Cyfeiriadau