Plaid Cydraddoldeb Menywod

plaid wleidyddol yn y Deyrnas Unedig
(Ailgyfeiriad o Women's Equality Party)

Mae Plaid Cydraddoldeb Menywod (en: Women's Equality Party) yn blaid wleidyddol ffeministaidd a sefydlwyd yn y Deyrnas Unedig yn 2015. Sefydlwyd y blaid gan Catherine Mayer a Sandi Toksvig yng Ngŵyl Merched y Byd. Sophie Walker oedd yr arweinydd yn 2015. Cyhoeddwyd amcanion y blaid yn Conway Hall, Llundain ar 20 Hydref 2015. Ym mis Ionawr 2020, cymerodd Mandu Reid drosodd fel arweinydd y blaid.[1]

Plaid Cydraddoldeb Menywod
Enghraifft o'r canlynolplaid wleidyddol Edit this on Wikidata
Idiolegffeministiaeth, pro-Europeanism Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2015 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd gany Democratiaid Rhyddfrydol Edit this on Wikidata
SylfaenyddCatherine Mayer, Sandi Toksvig Edit this on Wikidata
PencadlysBrixton Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.womensequality.org.uk/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae prif amcanion y blaid yn cynnwys:[2]

  • Cynrychiolaeth gyfartal mewn gwleidyddiaeth a busnes;
  • Cynrychiolaeth gyfartal mewn addysg;
  • Cyflog cyfartal;
  • Trin merched yn gyfartal gan ac yn y cyfryngau;
  • Hawliau rhianta cyfartal;
  • Diwedd ar drais yn erbyn menywod.
  • Cydraddoldeb mewn gofal iechyd ac ymchwil feddygol

Safodd y blaid etholiad am y tro yn Gyntaf yn 2016 gydag ymgeisydd ar gyfer Maer Llundain ac ymgeiswyr ar gyfer Cynulliad Llundain, Senedd yr Alban a Chynulliad Cymru. Safodd saith ymgeisydd yn Etholiad Cyffredinol y DU 2017, tri ymgeisydd yn Etholiad Cyffredinol 2019 a phedwar yn etholiad 2024 (dwy ohonynt yn etholaethau Cymreig Caerfyrddin a Chanol a De Sir Benfro.)

Cyfeiriadau