William Nathaniel Jones

Aelod Seneddol Rhyddfrydol Cymreig

Roedd William Nathaniel Jones, (20 Mawrth 1858 - 24 Mai 1934), oedd yn cael ei adnabod gan amlaf fel W. N. Jones yn arwerthwr, swyddog milwrol gwirfoddol ac yn wleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol Caerfyrddin rhwng 1928 a 1929. [1]

William Nathaniel Jones
Ganwyd20 Mawrth 1858 Edit this on Wikidata
Llandybïe Edit this on Wikidata
Bu farw24 Mai 1934 Edit this on Wikidata
Llanwrtyd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwleidydd, arwerthwr Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 34ydd Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata

Cefndir

Ganwyd W N Jones yn nhafarn y Raven Inn, Llandybïe yn fab i William Jones, Arwerthwr ac Elizabeth (née Francis), tafarnwraig, ei ail wraig. Cafodd ei fedyddio yn Eglwys Crist Cwmaman ar 13 Chwefror 1859 [2]. Er iddo gael ei fedyddio yn Eglwys y plwyf roedd yn aelod selog gyda'r Wesleaid, yn bregethwr cynorthwyol i'r enwad ac yn oruchwyliwr cylchdaith Wesleaidd Llandybie. Bu'n un o'r cynrychiolwyr lleyg Cymreig i Gynhadledd Methodistiaid Prydain Fawr ar sawl achlysur [3]

Pan oedd tua 3 mlwydd oed bu farw ei dad, ail briododd ei fam a gŵr o'r enw Thomas Bullen.

Ar ôl cael addysg elfennol leol ymadawodd Jones a'r ysgol pan oedd tua 12 mlwydd oed.

Teulu

Priododd Jones, ym 1881 a Margaret Jane, merch Thomas Francis, Llandeilo, a bu iddynt ddau fab a merch a oroesodd a dau blentyn arall a fu farw yn eu plentyndod. [4]

Gyrfa

Hysbyseb Jones ei fod wedi etifeddu busnes ei dad [5]

Wedi ymadael a'r ysgol cafodd Jones ei swydd gyntaf fel bachgen y post yng ngwaith tunplat yn Llansawel. Ar ôl hynny bu'n gweithio am gyfnod i gwmni rheilffordd y Great Western. Pan fu farw tad Jones ym 1861 aeth ei fusnes arwerthu i'w fab hynaf Herbert Nathaniel Jones(1837-1880), hanner brawd William Nathaniel. Pan fu farw Herbert ym 1880 etifeddodd William y busnes.

Daeth yn arwerthwr llwyddiannus iawn, o'r elw cafodd o'i fusnes arwerthu buddsoddodd yng ngwaith tunplat Tir-y-dail, agorodd pwll glo Tir-y-dail a phrynodd gwaith dur Birchgrove Abertawe.[6] Bu'n sefydlydd a chyfarwyddwr gwaith nwy Rhydaman. Daeth yn hynod gyfoethog![7]

Gyrfa gyhoeddus

Pwyllgor Ysbyty Meddwl Caerfyrddin 1915. Mae Jones yn canol union y rhes blaen gyda'i freichiau wedi eu plethu dros ei fol

Chwaraeodd Jones ran amlwg ym mywyd cyhoeddus Sir Gaerfyrddin. Roedd yn Ynad Heddwch,[8] roedd yn Lefftenant-cyrnol ym Mataliwn Gwirfoddolwyr Sir Gaerfyrddin [9], roedd yn aelod o fyrddau llywodraethol nifer o sefydliadau addysg gan gynnwys Ysgol, Llandybïe, Ysgol Ganolradd, Llandeilo a Choleg Prifysgol Cymru Aberystwyth. [3]. Roedd yn aelod o fwrdd carthffosiaeth Dyffryn Aman, [10] yn gadeirydd ysbyty iechyd meddwl Sir Gaerfyrddin ac yn aelod o bwyllgor tloty'r sir.

Bu'n aelod o Gyngor Trefol Dyffryn Aman ac yn aelod o Gyngor Sir Gaerfyrddin o'i sefydlu hyd ei farwolaeth, gan wasanaethu fel ei gadeirydd ym 1897. Gan fod 1897 yn flwyddyn jiwbilî diemwnt y Frenhines Fictoria gafodd Jones gynrychioli'r sir yn y dathliadau ym Mhalas Buckingham.[3] Gwasanaethodd fel Uchel Siryf Sir Gaerfyrddin ym 1924.[11]

Ym 1926, ymunodd Syr Alfred Mond,[12] AS Rhyddfrydol Sir Gaerfyrddin, a'r Blaid Geidwadol. Dewiswyd Jones i fod yr ymgeisydd Rhyddfrydol i'w herio yn yr etholiad Cyffredinol nesaf. Beth bynnag, ni fu'n rhaid i Jones aros tan yr etholiad cyffredinol nesaf gan fod Mond wedi ei ddyrchafu i Dŷ'r Arglwyddi ym 1928 gan achosi isetholiad yng Nghaerfyrddin. Llwyddodd Jones i gadw'r sedd i'w blaid o drwch y blewyn. Dim ond 47 pleidlais oedd rhyngddo ef a'r ymgeisydd Lafur Daniel Hopkin.

Isetholiad Caerfyrddin 1928

Nifer y pleidleiswyr 37,482

PlaidYmgeisyddPleidleisiau%±%
RhyddfrydolWilliam Nathaniel Jones10,20135.5
LlafurDaniel Hopkin10,15435.4
CeidwadwyrSyr Courtenay Cecil Mansel8,36129.1
Mwyafrif470.1
Y nifer a bleidleisiodd30,31676.6
Rhyddfrydol yn cadwGogwydd

Yn etholiad cyffredinol 1929 bu Hopkin a'r Blaid Lafur yn fuddugol a chollodd Jones ei sedd ar ôl dim ond blwyddyn o wasanaeth fel Aelod Seneddol.

Marwolaeth

Bu farw yn sydyn wrth fynd i dal trên yn Llanwrtyd yn 76 mlwydd oed. [13] Claddwyd ei weddillion ym mynwent plwyf Llandybïe.

Cyfeiriadau

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Syr Alfred Mond
Aelod Seneddol

Caerfyrddin
19281929

Olynydd:
Daniel Hopkin