Wayne Pivac

Hyfforddwr rygbi'r undeb proffesiynol o Seland Newydd yw Wayne Pivac (ganed 10 Medi 1962) yn ogystal â chyn swyddog heddlu. Dechreuodd ei yrfa fel cwnstabl yng ngorsaf heddlu Takapuna ar arfordir gogleddol Auckland. Cychwynodd ei swydd fel hyfforddwr tîm Cymru yn Nhachwedd 2019, yn cymryd yr awenau o Warren Gatland. Cytunodd i adael y swydd yn Rhagfyr 2022 ar ôl adolygiad o Gyfres yr Hydref, lle collodd Cymru dair o’u pedair gêm, gan gynnwys yn erbyn Georgia.[1]

Wayne Pivac
GanwydWayne Jeffrey Pivac Edit this on Wikidata
10 Medi 1962 Edit this on Wikidata
Auckland Region Edit this on Wikidata
DinasyddiaethSeland Newydd Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Westlake Boys High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethhyfforddwr chwaraeon, chwaraewr rygbi'r undeb, heddwas Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auNorth Harbour Rugby Union Edit this on Wikidata
Safleblaenasgellwr Edit this on Wikidata
Wayne Pivac
Gyrfa rygbi'r undeb
Gyrfa fel hyfforddwr
Blynydd.Clybiau / timau
2002-2003
2004-2007
2007-2008
2011-2014
2014-2018
2019-2022
Auckland
 Ffiji
North Harbour
Auckland
Scarlets
 Cymru
Gyrfa rygbi'r undeb

Dechreuodd chwarae ei rygbi yng Ngholeg Rosmini ac yna yn Ysgol Uwchradd Westlake i fechgyn, ond roedd Pivac hefyd yn ddigon da i chwarae i dîm rhanbarthol North Harbour, tra'n parhau i wasanaethu fel heddwas.[2]

Gyrfa fel Hyfforddwr Rygbi

Symudodd Pivac o chwarae rygbi i hyfforddi,  yn gyntaf ar lefel clwb yn Takapuna, yna am rai tymhorau gydag ail dîm North Harbour, ac yna gyda Northland, y rhanbarth gynrychiolodd ei dad.[3] Yn 1997, llwyddodd Pivac i arwain tîm Northland i frig ail adran y Bencampwriaeth Rhanbarthol Cenedlaethol, ac ennill dyrchafiad i'r adran gyntaf y flwyddyn ganlynol.  Yn dilyn hynny, Pivac oedd wrth y llyw gyda thîm Auckland yn 2002 a 2003 wrth iddyn nhw ennill y Bencampwriaeth ddwy flynedd o'r bron, yn ogystal â'r Ranfurly Shield.[4] Cafodd ei enwi fel Hyfforddwr Rygbi'r Undeb y flwyddyn yn Seland Newydd yn 2003, [5] ac yna ei gyflogi i olynu Mac McCallion fel hyfforddwr tîm rhyngwladol Fiji, ym mis Chwefror 2004. Yn ystod ei flwyddyn gyntaf gyda Fiji, llwyddodd y tîm i ennill cystadleuaeth y Pacific Tri-Nations, a  chynorthwyodd hefyd i hyfforddi y tîm saith bob ochr i ennill Cwpan Rygbi Saith Bob Ochr y Byd 2005.[6]

Yn Ionawr 2007, gadawodd Pivac ei swydd fel prif hyfforddwr rygbi Fiji oherwydd ymrwymiadau teuluol.[7] Wedi dychwelyd i Seland Newydd, apwyntiwyd ef yn hyfforddwr i dîm North Harbour.[8] Profodd hi'n dymor siomedig i'r rhanbarth, ac felly camodd Pivac i'r ochr yn 2008, gyda Craig Dowd a Jeff Wilson yn ei olynu,[9] dim ond iddyn nhw gael eu disodli y flwyddyn wedyn yn dilyn tymor siomedig arall. Yn 2011, cymerodd Pivac le Mark Anscombe fel hyfforddwr Auckland yn y Cwpan ITM.[10]

Yn 2014, cyhoeddwyd fod Pivac wedi cael ei apwyntio fel Is Hyfforddwr y Scarlets, sy'n chwarae eu rygbi yn stadiwm Parc y ScarletsLlanelli,Cymru.[11] Wedi cael ei gyflogi'n wreiddiol i arwain y blaenwyr, dyrchafwyd Pivac i swydd y Prif Hyfforddwr o achos ymadawiad Simon Easterby i dîm cenedlaethol Iwerddon.[12] Ym mis Mai, 2017, llywiodd Pivac y Scarlets i gipio eu cwpan cyntaf mewn 13 mlynedd, a theitl cyngrhair PRO12 Guiness, gan guro Munster o 46-22 yn Stadiwm Aviva, Dulyn.[13]

Ar y 9fed o Orffennaf 2018, cyhoeddwyd  mai Pivac fyddai'n olynu Warren Gatland fel hyfforddwr Cymru. Mae disgwyl iddo barhau fel hyfforddwr y Scarlets am dymor arall cyn cael ei gyflogi gan Undeb Rygbi Cymru ar gytundeb pedair blynedd. Cychwynodd ei gytundeb gyda Undeb Rygbi Cymru yng Ngorffennaf 2019 a cymerodd yr awenau ar ddechrau Tachwedd 2019.[14]

Ynganiad y Cyfenw Pivac

Er mai fel Pivac gydag ec Gymraeg yr ynghennir cyfenw Wayne Pivac, cyfenw Croateg ydyw, sy'n hannu, gan fwyaf o ardal Split ar arfordir Dalmatia y wlad.[15] Ynghennir yr enw yn gywir, neu'n wreiddiol, fel Pivats, gyda'r sillafiad Yr wyddor Gyrilig yn cadarnhau hynny, Пивац.[16] Bellach, rhyfedd byddai ynganu'r cyfenw yn y ffurf wreiddiol gan i'r yngangiad Seisnig ennill ei blwy.

Cyfeiriadau