Warren Gatland

Hyfforddwr a cyn chwaraewr rygbi'r undeb o Seland Newydd yw Warren David Gatland CBE[1] (ganwyd 17 Medi 1963). Mae'n brif hyfforddwr Tîm Cenedlaethol Cymru ers Rhagfyr 2022.[2]. Bu yn yr un swydd rhwng 2007 a 2019, cyn dychwelyd yn 2022 wedi cyfnod gwael i'r garfan o dan reolaeth Wayne Pivac.

Warren Gatland CBE
Enw llawnWarren David Gatland
Dyddiad geni (1963-09-17) 17 Medi 1963 (60 oed)
Man geniHamilton, Seland Newydd
Taldra1.88 m (6 ft 2 in)
Pwysau95 kg (209 lb)
Ysgol U.Hamilton Boys' High School
PrifysgolPrifysgol Waikato
GwaithHyfforddwr rygbi'r undeb
Gyrfa rygbi'r undeb
Statws cyfredol
Safle / oeddHyfforddwr
tîm cyfredolCymru
Gyrfa'n chwarae
SafleBachwr
Rhif Seland Newydd892
Taleithiau
BlynyddoeddClwb / tîmCapiau(pwyntiau)
1986–1994Waikato140
cywir ar 9 Tachwedd 2007.
Gyrfa fel hyfforddwr
Blynydd.Clybiau / timau
1989–1994
1994–1996
1996–1998
1998–2001
2002–2005
2005–2007
2006–2007
2007–2009
2009
2013
2020-2021
2021-2022
2022-
Galwegians RFC
Thames Valley (Hyfforddwr Cynorthwyol)
Connacht
Iwerddon
Wasps Llundain
Waikato
Chiefs (Cynghorydd Technegol)
Cymru
Y Llewod (Hyfforddwr Cynorthwyol)
Y Llewod (Prif Hyfforddwr)

Chiefs
Chiefs (Cyfarwyddwyr rygbi)
Cymru
cywir ar 2 Mehefin 2013.

Roedd yn brif hyfforddwr Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig ar gyfer ei taith o Awstralia yn 2013. Bu'n hyfforddwr ar dîm Connacht, Tîm Cenedlaethol Iwerddon, Wasps Llundain a Waikato. Fe ymddangosodd fel chwaraewr mewn 140 gêm ar gyfer tîm Waikato - record ar y pryd.

Derbyniodd CBE yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines 2020, am ei wasanaeth i'r byd rygbi.[3]

Cyfeiriadau


Eginyn erthygl sydd uchod am un o Seland Newydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.