Wadi Qelt

Dyffryn gyda nant ddofn yw Wadi Qelt (Arabeg: وادي القلط‎‎; ) neu Qilt a Kelt, a elwid gynt yn Naḥal Faran (Nant Pharan) yn y Lan Orllewinol, Palesteina. Mae'r nant yn tarddu ger Jeriwsalem ac yn llifo i Afon Iorddonen ger Jericho, ychydig cyn iddi aberu yn y Môr Marw .

Wadi Qelt
Delwedd:Nahal prat2.jpg, Israel Hiking Map עין קלת.jpeg
Nant Nahal Prat
Mathafon, nant Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Palesteina Palesteina
Uwch y môr700 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau31.84°N 35.41°E, 31.82941°N 35.53332°E Edit this on Wikidata
TarddiadHizma, Neve Yaakov, Almon Edit this on Wikidata
AberAfon Iorddonen Edit this on Wikidata
LlednentyddNachal Michmas, Nahal Zimri Edit this on Wikidata
Dalgylch130 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd29 cilometr Edit this on Wikidata
Arllwysiad0.017 metr ciwbic yr eiliad Edit this on Wikidata
Map

Mae'r wadi (sef gair Hebraeg Arabeg am nant) a'i amgylchedd naturiol a'i safleoedd archaeolegol yn denu twristiaid, yn enwedig y cyfoeth o adar sydd ar hyd ei glannau.

Daearyddiaeth

Mynachlog San Siôr, Wadi Qelt
Dringo clogwyni yn Wadi Qelt

Mae gan y nant sy'n llifo tua'r dwyrain i lawr y dyffryn yn torri trwy garreg calchfaen Mynyddoedd Jwdea, dri tharddiad, sef tair nant fechan:

1 Ayn Farah yr un fwyaf ym mhen y dyffryn ;

2. Ayn Fawar yn y canol; a

3. nant y Qelt, ychydig ymhellach i lawr.[1]

Mewn Arabeg mae gan bob rhan ei henw ei hun: Wadi Fara ar gyfer y rhan uchaf, Wadi Fawar ar gyfer yr un ganol, a Wadi Qelt ar gyfer y rhan isaf.[1]

Amgylchedd

Mae Wadi Qelt yn gartref i amrywiaeth unigryw o fflora a ffawna.

Cydnabyddir pwysigrwydd y safle 15,000 hectar gan y cofrestriad 'Ardal Adar o Bwys' (IBA) a roddwyd gan BirdLife International oherwydd ei fod yn cynnal poblogaethau o Eryrdylluan Ewrop, y fwltur griffon, yr eryr Bonelli a'r chudyll coch bach.[2]

Perthnasedd crefyddol

Mae'r Wadi wedi'i chysylltu â'r Perath Beiblaidd a grybwyllir yn Jeremiah 13:5, yn ol rhai.[3]

Traddodiad Cristnogol

Dywed traddodiad bod Joachim tad y Forwyn Fair wedi gweddïo yn Wadi Qelt i gael ei fendithio â phlentyn. Mae Ogof Santes Anne, lle bu meudwyon tan ychydig ddegawdau yn ôl, yn gysylltiedig â'r traddodiad hwn.

Mae Mynachlog San Siôr,[3] hefyd wedi'i chysylltu â'r traddodiad Marian, wedi'i hadeiladu yn y clogwyni wadi ychydig i fyny'r afon o Ogof Santes Anne.

Hanes

Yr Oes Efydd a'r Oes Haearn

Mae Qubur Bani Isra'in yn strwythurau cerrig mawr iawn o'r Oes Efydd, sy'n codi o lwyfandir creigiog sy'n edrych dros Wadi Qelt.[4]

Cyfnodau Hellenistig a Rhufeinig

Cafwyd hyd i sawl dyfrbont ar hyd y nant, gyda'r hynaf yn dyddio i'r cyfnod Hasmonaidd (2g CC).[1] Roedd y dyfrbontydd yn cludo dŵr o dair nant, i lawr i wastadedd Jericho.[5]

Safai palasau gaeaf brenhinoedd Hasmonaidd a Herod Fawr ym mhen isaf y dyffryn, lle mae'n cyrraedd Gwastadedd Jericho.[6] Credir bellach bod strwythur o fewn palasau gaeaf brenhinol Hasmonaidd, yn ol yr archaeolegydd, Ehud Netzeryn synagog, ac fe'i adnabyddir heddiw fel Synagog Wadi Qelt, un o'r synagogau hyna'r byd.[7][8] Yn ol haneswyr eraill, nid synagog mohono.

Mynachod Rufeinig a Bysantaidd hwyr

Mae Wadi Qelt yn cynnwys mynachlogydd a hen leoliadau Cristnogol.[1] Yn ôl y traddodiad, sefydlwyd anheddiad mynachaidd cyntaf anialwch Jwdeaidd, y Pharan lavra, gan Sant Chariton y Cyffeswr tua diwedd y 3g yn Wadi Qelt uchaf,[9] ardal a adwaenir i'r Eglwys Uniongred Roegaidd fel Dyffryn Pharan.

Sefydlwyd Mynachlog Saint George gan John o Thebes tua 480 OC, a daeth yn ganolfan ysbrydol bwysig yn y 6g o dan Saint George o Choziba . Byddai meudwyon sy'n byw mewn ogofâu mewn clogwyni cyfagos yn cwrdd yn y fynachlog i gael offeren wythnosol a phryd cymunedol.[10]

Cloddiwyd mynachlog Bysantaidd arall ar y safle a elwir yn Arabeg fel Khan Saliba.[11] Adeiladwyd Mynachlog Sant Adda o'r 5g yno "oherwydd yno yr arhosodd ac wylodd am iddo golli Paradwys" (Epiphanius).[11] Daeth archeolegwyr o hyd i fosaigau Bysantaidd coeth ar hen safle'r bererindod.[12][13]

1967 ac ar ôl

Meddiannwyd yr ardal gan Israel ym 1967 .

Ar 20 Rhagfyr, 1968, lladdwyd is-gapten-Cyrnol Zvi (Tzvika) Ofer, cadlywydd uned elitaidd Haruv, cyn-Lywodraethwr Milwrol Nablus a derbynnydd medal falchder Israel, wrth ymladd yn Wadi Qelt wrth geisio ymlid arabiaid oedd wedi croesi'r Iorddonen.[14]

Twristiaeth

Wadi Qelt

Cyhoeddodd Israel rannau uchaf y wadi fel ardal warchodedig o dan yr enw Gwarchodfa Natur Ein Prat.[1]

Mae llawer o Wadi Qelt yn llwybr poblogaidd i gerddwyr Palesteinaidd ac Israelaidd. Mae'n bosib cerdded yr holl ffordd o dref Hizma i Jericho, taith o 25 cilometr a disgyniad o 850m.[15]

Bedwin

Defnyddir y wadi gan lawer o fugeiliaid Bedwin. Mae rhai Bedwiniaid a thrigolion Jericho hefyd yn ennill eu bywoliaeth ger Mynachlog San Siôr, trwy gynnig reidiau asyn i bererinion a gwerthu diodydd a chofroddion iddynt.[16][17][18]

Gweler hefyd

  • Chariton the Confessor, sylfaenydd mynachlog tebyg i lavra yn y 3edd ganrif yn Nyffryn Pharan (Wadi Qelt uchaf)
  • Dyffryn Jordan

Cyfeiriadau

Dolenni allanol