Undeb personol
Perthynas rhwng dwy wladwriaeth yw undeb personol sydd yn rhannu'r un brenin neu frenhines, ond heb gyfuno llywodraeth, cyfreithiau na chyfansoddiad ac heb ddiddymu'r ffiniau rhyngddynt. Câi'r ddwy wladwriaeth eu cysylltu drwy berson y teyrn yn unig, a ni châi unrhyw undeb gwleidyddol, cyfreithiol, nac economaidd ffurfiol.
Fel arfer, defnyddir y term mewn cyd-destun hanesyddol. Yn y byd heddiw, gellir ystyried teyrnasoedd y Gymanwlad mewn undeb personol â'r Deyrnas Unedig, am eu bod i gyd yn wledydd sydd yn annibynnol ar ei gilydd ond yn rhannu'r un brenin, Siarl III.[1]
Enghreifftiau hanesyddol
- Tywysogaeth Cymru mewn undeb personol â Theyrnas Lloegr o 1284 i 1542
- Teyrnas Iwerddon mewn undeb personol â Lloegr o 1542 i 1707, ac â Phrydain Fawr o 1707 i 1800
- Undeb y Coronau: undeb personol rhwng teyrnasoedd Lloegr a'r Alban (1603–49, 1660–1707)
- Teyrnas Croatia mewn undeb personol â Theyrnas Hwngari o 1102 i 1918
- Y Frenhiniaeth Ddeuol (Awstria-Hwngari): undeb personol rhwng Cisleithania a Transleithania (1867–1918)
- Undeb Kalmar (1397–1523)
- Denmarc–Norwy (1524–1814)
- Teyrnas Gwlad yr Iâ mewn undeb personol â Theyrnas Denmarc o 1918 i 1944
- Andorra a Ffrainc: undeb rannol gyda Ffrainc ers 1607 (Arlywydd Ffrainc yw un o benaethiaid y Dywysogaeth).
- Gwlad Belg a Gwladwriaeth Rydd y Congo: undeb bersonol rhwng Leopold II rhwng 1877 a 1908.
- Undeg Saith Talaith yr Iseldiroedd: undeb bersonol rhwng Dugoedd Bwrgwyn a Siarl V.
- Lwcsembwrg a'r Iseldiroedd: rhwng 1815 a 1890
- Portiwgal a Sbaen: rhwng 1580 a 1640
- Catalonia ac Aragon: rhwng 1135 a 1716
- Coron Aragon a Choron Castile: priodas y breninoedd Catholig
Cyfeiriadau
🔥 Top keywords: XXX: Return of Xander CageHafanSiôn Daniel YoungCarles PuigdemontArbennig:SearchArwel GruffyddSwper OlafWicipedia:CategorïauSpotifyRun Hide FightYr Ail Ryfel BydArbennig:RecentChangesSex TapeMaid in SwedenRyland TeifiWicipedia:Cysylltwch â niL.E.T.H.A.L. Ladies: Return to Savage BeachWicipedia:Gwadiad CyffredinolLlyn CraigypistyllPorn to Be FreeCymraegCymruNick ServiniWicipedia:Porth y GymunedWicipedia:CymorthWicipedia:Y CaffiWikipediaCapel CelynWicipedia:Ynglŷn â WicipediaWicipedia CymraegSpecial:SearchJess DaviesEmanuelle in AmericaEmmanuelle 4Xxx: State of The UnionAfter Porn Ends 2Caligula's SpawnCyfathrach rywiolIndia