Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur

Mae'r Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur (Ffrangeg: Union internationale pour la conservation de la nature [UICN]; Saesneg: International Union for Conservation of Nature (IUCN)) yn sefydliad byd-eang sydd a'i fryd ar "ddarganfod atebion mwyaf pragmatig i broblemau cyfnewidiol yr amgylchedd".[1] Dyma'r corff sy'n cyhoeddi Rhestr Goch yr IUCN o greaduriaid sydd dan fygythiad, sef rhestr sy'n asesiad cyfoes o statws gadwriaethol creduriaid ledled y byd.[2]

Undeb Rhyngwladol
dros Gadwraeth Natur
Union internationale
pour la conservation de la nature
MathSefydliad Rhyngwladol
SefydlwydHydref 1948, Fontainebleau, Ffrainc
Pencadlys
  • Rue Mauverney 28, 1196 Gland, Swistir
Prif boblJulia Marton-Lefèvre (Uwch Gyfarwyddwr)
Zhang Xinsheng (Llywydd)
Y lle a wasanaethirY byd cyfan
FfocwsCadwraeth, bioamrywiaeth, Atebion naturiol
Datganiad o genhadaethDylanwadu, hybu, annog a chynorthwyo cymdeithasau byd-eang i warchod integriti ac amrywiaeth natur a sicrhau fod y defnydd o unrhyw adnoddau naturiol ecolegol gydbwyso ac yn gynaliadwy.
Nifer a gyflogirDros 1,000 (yn fyd-eang)
GwefanIUCN

Mae'r IUCN yn cefnogi ymchwil ac yn rheoli prosiectau maes drwy'r byd, ac yn ddull o uno mudiadau di-lywodraeth (fel yr awgryma'r enw "Undeb") ac asiantaethau'r Cenhedloedd Unedig, cwmniau a chymunedau lleol gan gydlynu'u holl weithgareddau a chreu polisiau. Dyma rwydwaith amgylcheddol hyna'r byd ac mae ganddo aelodaeth ddemocrataidd o dros 1,000 o sefydliadau a thros 11,000 o wyddonwyr gwirfoddol mewn dros 160 o wledydd. Mae ganddyn nhw dros 1,000 o staff proffesiynol a channoedd o bartneriaid ym mhob sector ar hyd a lled y byd. Mae pencadlys yr undeb yn Gland, Swistir.[1]

Gweledigaeth IUCN yw byd cyfiawn sy'n "rhoi gwerth ar natur ac yn ei warchod".[3]

Gweler hefyd

Cyfeiriadau