Tri Chopa Swydd Efrog
Casgliad o dri chopa o'r enwau Pen y Ghent (694m), Ingleborough (723m), a Whernside (736m) yw'r Tri Chopa Swydd Efrog (Saesneg:Yorkshire Three Peaks).
Maen nhw'n ffurfio rhan o'r Pennines, ac mae Pen y Ghent ar y Pennine Way.
Ar gopa Whernside ceir mur, a dyma'r ffin rhwng Swydd Efrog a Chumbria.
Her y Tri Chopa
Mae Her y Tri Chopa yn her boblogaidd i gerddwyr, lle mae'n rhaid cwblhau taith trwy'r tri chopa o fewn 12 awr neu lai. Hyd y daith mae tua 25 milltir, ond mae'n dibynnu ar ba lwybr y dilynwch. Mae'n rhaid dechrau ym mhentref Horton-in-Ribblesdale, a dychwelyd yno i orffen y daith. Mae llawer o bobl yn ei wneud er mwyn codi arian at elusen.
- Copa Pen-y-Ghent
- Copa Ingleborough
- Copa Whernside
🔥 Top keywords: Wicipedia:Cysylltwch â niHafanArbennig:SearchA470XXX: Return of Xander CageHebog tramorArbennig:RecentChangesTübingenYr Ail Ryfel BydCategori:Ffilmiau o'r British RajSiôn Daniel YoungWicipedia:Gwadiad CyffredinolWikipediaCymruWicipedia:Cymorth28 TachweddMici PlwmHentai KamenWicipedia:Ynglŷn â WicipediaWicipedia:Porth y GymunedCyfathrach rywiolPrifysgol Eberhard Karl TübingenSafleoedd rhyw35 DiwrnodFleur de LysCymraeg14 GorffennafDonald TrumpEva StrautmannSpecial:SearchWicipedia:Y CaffiCelt (band)HelaWicipedia CymraegVoice of AmericaYmgais i lofruddio Donald TrumpWicipedia:CymraegSex and The Single GirlBoulevard Nights