Trawsgreu

Mae Trawsgreu (Saesneg: Transcreation, Sbaeneg: Transcreación neu Traducción creativa de marketing) yn derm ym maes cyfieithu i ddisgrifio addasu neges o un iaith i'r llall, gyda’r pwyslais o gyfleu bwriad y neges ar y darllenwyr targed. Yn aml mae’r term yn cael ei gysylltu gyda chyfieithu marchnata a hysbysebu. [1][2]

Trawsgreu ar hysbyseb - Y fersiwn Sbaeneg yn ddweud "Bwystfil... tyrd i weld ni"
Trawsgreu ar hysbysebion - Y fersiwn Sbaeneg yn ddweud "Bwystfil... tyrd i weld ni"

Wrth gyfieithu ar gyfer hysbysebion y nod yw perswadio’r gynulleidfa darged at bwrpas penodol, ee. prynu cynnyrch, defnyddio gwasanaeth neu newid arferion. Mae’r testun yn gallu cael ei addasu cryn dipyn o’r iaith wreiddiol os mae’r gynulleidfa’n ei deall yn well ac mae’n dylanwadu’n fwy effeithiol. Er mwyn bod yn effeithiol, rhaid i hysbysebion gyrraedd calonnau yn ogystal â meddyliau. Ar y llaw arall mae’r pwyslais mewn cyfieithu technegol a chyfreithiol yw trosi ystyr term yn gywir unfath â’r iaith wreiddiol.

Yn wahanol i lawer o fathau eraill o gyfieithu, mae Trawsgreu hefyd yn aml yn golygu addasu nid yn unig geiriau, ond fideo a delweddau i'r gynulleidfa darged. Mae'r dull Trawsgreu hefyd yn cael ei ddefnyddio'n helaeth heddiw wrth gyfieithu gemau fideo ac apiau symudol.

Yn y byd marchnata, mae gweithwyr sy'n ymwneud â Thrawsgreu yn aml yn cael eu galw’n “ysgrifennwr copi” neu “golygydd”, neu fel arall fel “traws - grewr.”

Cefndir

Poster am gwrs Trawsgreu, Prifysgol Sevilla, Sbaen

Datblygwyd y syniad o Drawsgreu am y tro cyntaf gan gyfieithwyr yn India a Brasil yng nghanol yr 20g. Yn 2010, trafododd y term mewn erthygl am y tro cyntaf mewn cyhoeddiad dylunio a hysbysebu Tsieineaidd,

Yn yr 21g, dechreuodd rhai asiantaethau cyfieithu farchnata eu hunain yn benodol fel ‘asiantaethau trawsgreu’. [3] Mae Trawsgreu yn caniatáu i farchnatwyr fynd â neges hysbysebu byd - eang a'i theilwra i'w marchnad.

Mae cynnydd Trawsgreu wedi cyd-fynd â'r twf mewn ymgyrchoedd marchnata rhyngwladol. Yn 1960 roedd gwaith rhyngwladol yn cyfrif am 6% o refeniw gros y deg asiantaeth hysbysebu fwyaf yn yr Unol Daleithiau. Erbyn 1991, roedd y gyfran honno wedi codi i 60%, ac mae wedi bod yn codi byth ers hynny, yn unol â'r egwyddor “meddwl yn fyd-eang; gweithredu'n lleol”. [4]

Gweler hefyd

  • Cymraeg Clir - ysgrifennu dogfennau cyhoeddus mewn iaith glir a syml
  • Trawsieithu y proses yn y byd addysg o ddefnyddio mwy nag un iaith o fewn gwers ddosbarth.
  • Newid cod - ble mae'r un person yn defnyddio dwy iaith yn yr un sgwrs.
  • Cywair Iaith - amrywiaethau yr un iaith yn ôl y cyd-destunau.
  • Ieithyddiaeth disgrifiadol - disgrifio’n fanwl gywir sut mae iaith yn cael ei defnyddio


Cyfeiriadau