Dysgwr y Flwyddyn
Cystadleuaeth flynyddol yw Dysgwr y Flwyddyn sy'n agored i unigolion sydd wedi dysgu Cymraeg fel oedolyn. Cychwynnodd y gystadleuaeth yn 1983.
Mae’r gystadleuaeth yn agored i unrhyw un dros 18 oed sydd wedi dysgu Cymraeg yn eithaf rhugl. Gall unigolyn ymgeisio’i hun, neu gall teulu, ffrind, cydymaith - unrhyw un - fynd ati i enwebu rhywun sydd wedi gwneud eu gorau gyda’r Gymraeg.[1]
Mae rhestr fer o bedwar unigolyn yn cael eu cyhoeddi fel arfer ym mis Mehefin. Caiff yr enillydd ei gyhoeddi yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst.[2] Mae'r enillydd yn derbyn tlws arbennig a swm o arian. Mae'r tri arall sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn derbyn tlysau ac yn derbyn tanysgrifiad blwyddyn i’r cylchgrawn Golwg, a rhoddion gan fudiad Merched y Wawr. Bydd yr enillydd hefyd yn cael ei g/wahodd i fod yn aelod o’r Orsedd.[3]
Rhestr enillwyr
- 1983 - Shirley Flower, Clwyd
- 1986 - Alan Whittick, Powys
- 1988 - Jenny Pye, Llanbedrgoch
- 1989 - Stel Farrar, Mynydd Llandegai
- 1990 - Parchg John Gillibrand, Sir Gaerfyrddin
- 1991 - Jo Knell, Caerdydd
- 1992 - Sandy Rolls, Penderyn
- 1993 - Janet Charton, Betws y Coed
- 1994 - Sarah Williams, Llandeilo
- 1995 - Paul Attridge, Lluest, Wrecsam
- 1996 - Mark Aizelwood, Casnewydd
- 1997 - Paul Elliott, Casnewydd
- 1998 - Stephen Wilshaw, Caerdydd
- 1999 - Alison Layland, Croesoswallt
- 2000 - Sandra de Pol, Yr Ariannin
- 2001 - Spencer Harris, Wrecsam
- 2002 - Alice Traille James, Crymych
- 2003 - Mike Hughes, Carno
- 2004 - Lois Arnold, Y Fenni
- 2005 - Sue Massey, Penmaenmawr
- 2006 - Stuart Imm, Cwmbran
- 2007 - Julie MacMillan, Y Rhondda
- 2008 - Madison Tazu, Caerdydd
- 2009 - Meggan Lloyd Prys, Rhiwlas, Bangor
- 2010 - Julia Hawkins, Cruchywel
- 2011 - Kay Holder, Bro Morgannwg
- 2012 - Isaias Grandis, Trevelin, Patagonia
- 2013 - Martyn Croydon, Llŷn
- 2014 - Joella Price, Caerdydd
- 2015 - Gari Bevan, Merthyr Tudful
- 2016 - Hannah Roberts, Brynmawr
- 2017 - Emma Chappell, Deiniolen[4][5]
- 2018 - Matt Spry, Caerdydd[6]
- 2019 - Fiona Collins, Carrog[7]
- 2020 - Jazz Langdon, Arberth[8][9]
- 2021 - David Thomas, Caerfyrddin[10]
- 2022 - Joe Healy, Caerdydd[11]
- 2023 - Alison Cairns, Llannerchymedd[12]