Tal-y-bont ar Wysg

pentref ym Mhowys, Cymru
(Ailgyfeiriad o Talybont-ar-Wysg)

Pentref a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Tal-y-bont ar Wysg[1] (Saesneg: Talybont-on-Usk).[2] Saif ychydig i'r gorllewin o Afon Wysg, a bob ochr i Gamlas Aberhonddu a'r Fenni. Ar un adeg roedd y pentref yn ganolfan bwysig i'r diwydiant gwlân; mae'n awr yn gyrchfan boblogaidd i dwristiaid. Ganed y bardd ac awdur Roland Mathias yma.

Tal-y-bont ar Wysg
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth719 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd7,552.64 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.896°N 3.29°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000880 Edit this on Wikidata
Cod OSSO111226 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJames Evans (Ceidwadwyr)
AS/auDavid Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol)
Map
Am leoedd eraill o'r enw "Tal-y-bont", gweler Tal-y-bont (gwahaniaethu).

Heblaw pentref Tal-y-bont ar Wysg, mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Llansantffraed, lle mae'r bardd Henry Vaughan wedi ei gladdu, a Llanddeti. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 743.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol).[4]

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Tal-y-bont ar Wysg (pob oed) (719)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Tal-y-bont ar Wysg) (117)
  
16.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Tal-y-bont ar Wysg) (415)
  
57.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Tal-y-bont ar Wysg) (93)
  
29.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau