Stryd Dizengoff
Mae Stryd Dizengoff (Hebraeg: רחוב דיזנגוף, Rehov Dizengoff) yn stryd bwysig yng nghannol dinas Tel Aviv, Israel. Enwyd y stryd ar ôl faer cynraf Tel Aviv, Meir Dizengoff. Dyma oedd prif stryd a stryd fwyaf enwog Israel a daeth yn fathodyn o lwyddiant Seioniaeth a Tel Aviv fel dinas soffistigedig.
![]() | |
Math | stryd ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | Meir Dizengoff ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Tel Aviv ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 32.080539°N 34.773767°E ![]() |
Hyd | 5 ±1 cilometr ![]() |
![]() | |
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/82/108_Dizengoff_Street.jpg/220px-108_Dizengoff_Street.jpg)
Mae'r stryd yn rhedeg o gornel Stryd Ibn Gabirol ar ei phwynt mwyaf deheuol i ardal porthladd Tel Aviv yn ei phwynt gogledd orllewinnol.
Hanes
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/c/ca/Dizengoff_St_looking_north_1930s.jpg/220px-Dizengoff_St_looking_north_1930s.jpg)
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/c/ca/Tel-aviv-interchange-ben-gurion-dizengoff-streets-july-2016.jpg/220px-Tel-aviv-interchange-ben-gurion-dizengoff-streets-july-2016.jpg)
Disgrifiwyd y stryd yn ei blodau fel "Champs-Élysées Tel Aviv". Mewn slang Hebraeg, bathwyd gair newidd sy'n nodweddu pwysigrwydd y stryd yn y wlad newydd: "l'hizdangef" (להזדנגף), yn llythrennol "i Dizengoffio ei hun, hynny yw, i rhodio ar hyd Stryd Dizengoff" i fynd allan ar y dref[1] Nodweddwyd hi gan adeiladau lluniaidd Bauhaus. Ers yr 1970au mae'r stryd wedi dioddef cwymp mewn bri wrth i ddinasyddion fynd i maelfa, Canolfan Dizengoff hybu'r cwymp yma, yn ogystal â newidiadau i adeiladwaith y stryd.
Roedd Stryd Dizengoff i'r gogledd tuag at Sgwâr Dizengoff arfer bod yn ardal gyfoethog ond cwympodd mewn bri. I'r gogledd o'r Sgwâr mae'r stryd yn dal i ddal siopau cyfoethog [2] sy'n cynnwys siopau drud. Mae'r stryd yn llawn caffes, bwytai, ciosg byr-bryd yn gwerthu ffelaffel. Ar ben ddeuheuol y stryd ceir Sgwâr Dizengoff a maelfa Dizengoff.[1]
Daeth dirywiad y stryd yn destun trafod ymysg pobl Tel Aviv ac Israel, yn enwedig yn sgil dathliadau canmlwyddiant y ddinas yn 2009. Er mwyn troi'r rhod ar ddirywiad y stryd yn 2017, penderfynodd Bwrdeistref Tel Aviv i fuddsoddi NIS60 miliwn i adnewyddu rhan waelod Sgwâr Dizengoff i'r gynllun gwreiddiol. Mae bellach gwell ysbryd a golwg i'r stryd.
Ymosodiadau
Dioddefodd y stryd ddau ymosodiad far yn yr 1990au. Lladdwyd 22 person mewn ymosodiad terfysgol ar fws rhif 5 ar y stryd ar 5 Hydref 1994 a cafwyd ymosodiad fawr arall ar Ganolfan Dizengoff ar 4 Mawrth 1996 pan laddwyd 13 person. Codwyd cofebau i'r dioddefwyr.
Mewn diwylliant poblogaidd
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
Oriel
- Adeiladau newydd a chytiau wrth adeiladu Stryd Dizengoff, 1934
- Stryd Dizengoff, 1939 רחוב דיזינגוף בתל אביב
- Milwyr Iddewig ym myddin Prydain yn gorymdeithio ar hyd Stryd Dizengoff, 1942
- Caffe Royal, 1948
- Stryd Dizengoff, 1965
- Adeilad, 166 Stryd Dizengoff/45 Rhodfa Ben Gurion. Pensaeri: A. Mitelman (1936) a Pinhas Doron (1995)
- Cofeb Lehi
- Tel Aviv Dizengoff, 2008
- Cofeb i ddioddefwyr cyflafan Bws rhif 5 a ddigwyddodd ar 19 Hydref 1994
- Stryd Dizengoff, 2016