Starlink

Mae Starlink yn rhwydwaith o loerenni a grewyd ac a weithredir gan y cwmni awyrofod Americanaidd SpaceX,[1] sy'n darparu gwasanaeth i dros 70 o wledydd. Caiff hefyd ei alw'n 'gysawd y rhyngrwyd'. Bydd y rhwydwaith hwn hefyd yn wasanaeth ffonau symudol ar raddfa byd-eang erbyn 2024.[2]

Starlink
Enghraifft o'r canlynolclwstwr lloerenni Rhyngrwyd, prosiect Edit this on Wikidata
Màs227 cilogram, 260 cilogram, 295 cilogram, 800 cilogram, 1,250 cilogram Edit this on Wikidata
GwladBaner UDA UDA
Dechrau/SefydluIonawr 2015 Edit this on Wikidata
GweithredwrSpaceX Edit this on Wikidata
GwneuthurwrSpaceX Edit this on Wikidata
GwladwriaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.starlink.com/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Dechreuodd SpaceX lansio lloerennau Starlink ym Mai 2019. Yn Nhachwedd 2023, roedd gan y cytser o loerenni'n dros 5,500 o loerenni bach (wedi'u masgynhyrchu) mewn orbit isel o'r Ddaear (LEO)[3] ac maent yn cyfathrebu â throsglwyddyddion ar y Ddaear. Bydd y nifer terfynol o loerenni'n nes at 12,000; ac mae ail gam y cynllun yn cynyddu'r nifer hwn ymhellach - i tua 42,000 lloeren. Cyhoeddodd SpaceX ei fod wedi cyrraedd mwy nag 1 miliwn o danysgrifwyr yn Rhagfyr 2022, 1.5 miliwn o danysgrifwyr ym Mai 2023, a 2 filiwn o danysgrifwyr m Medi 2023. Mae wedi chwarae rhan allweddol yn Rhyfel Rwsia-Wcrain.[4]

Lleolir cyfleuster datblygu lloerenno SpaceX yn Redmond, Washington sy'n gartref i'r ymchwil i'r dechnoleg, sy'n datblygu'r lloerenni o ddydd i ddydd, sy'n gweithgynhyrchu'r lloerenni ac yn rheoli'r cylchdroeon (orbits). Ym Mai 2018, amcangyfrifodd SpaceX y byddai cyfanswm cost dylunio, adeiladu a defnyddio'r gytser o leiaf US$10 biliwn.[5] Yn Ionawr 2017 amcangyfrifodd SpaceX y byddai'r refeniw blynyddol gan Starlink tua $12 biliwn erbyn 2022[6] ac yn fwy na $30 biliwn erbyn 2025.[7] Dywedwyd bod refeniw gwirioneddol o Starlink yn 2022 yn $1.4 biliwn.[8] Disgrifiwyd y perfformiad hwn fel "methiant" gan SpaceX.[8][9][10]

Mae seryddwyr wedi codi pryderon am yr effaith y gallai'r cytser ei chael ar seryddiaeth ar y Ddaear, a sut y bydd y lloerenni'n cyfrannu negyddol at amgylchedd orbital sydd eisoes yn orlawn.[11] Mae SpaceX wedi ceisio lliniaru pryderon seryddol gyda mesurau i leihau disgleirdeb y lloerennau. Byddant yn dad-orbitio yn otomatig ar ddiwedd eu hoes. Maent hefyd wedi'u cynllunio i osgoi gwrthdrawiadau yn annibynnol ac yn llyfn yn seiliedig ar ddata tracio.[12]

Hanes

Yn gynnar yn 2014, aeth Elon Musk a Greg Wyler ati i weithio gyda’i gilydd i gynllunio cytser o tua 700 o loerennau o’r enw WorldVu, a fyddai dros 10 gwaith maint y cytser o loerenni fwyaf ar y pryd, sef Iridium.[13] Fodd bynnag, daeth y trafodaethau hyn i ben ym Mehefin 2014, a ffeiliodd SpaceX gais ITU trwy Awdurdod Cyfathrebu Norwy o dan yr enw STEAM.[14] Cadarnhaodd SpaceX y cysylltiad mewn cais yn 2016 i drwyddedu Starlink gyda'r Comisiwn Cyfathrebu Ffederal (FCC) yn UDA. Sicrhaodd SpaceX yr nod masnach Starlink yn yr Unol Daleithiau[15] enw a ysbrydolwyd gan nofel John Green The Fault in Our Stars (2012).[16]

Cyfnod dylunio (2015-2016)

Cyfleuster datblygu lloerenni SpaceX yn Redmond, Washington; lleoliad a ddefnyddiwyd rhwng 2015 a chanol 2018

Dadorchuddiwyd Starlink yn gyhoeddus ym Ionawr 2015 pan agorwyd cyfleusterau datblygu lloerenni SpaceX yn Redmond, Washington. Yn ystod yr agoriad, dywedodd Musk fod galw sylweddol ledled y byd am Ryngrwyd band-llydan, cost isel.[17] ac y byddai Starlink yn cludo hyd at 50% o'r holl draffig cyfathrebu ôl-gludo, a hyd at 10% o draffig Rhyngrwyd lleol yn ninasoedd y byd.[18] Dywedodd Musk y byddai'r llif arian cadarnhaol o werthu gwasanaethau rhyngrwyd lloeren yn angenrheidiol i ariannu cynlluniau SpaceX i gyrraedd y blaned Mawrth.[19] At hynny, mae gan SpaceX gynlluniau hirdymor i ddatblygu a defnyddio fersiwn o'r system gyfathrebu lloeren ar blaned Mawrth.[20]

Erbyn Hydref 2016, roedd yr is-adran loerenni yn canolbwyntio ar gost mor isel a phosibl i'r defnyddiwr. Dywedodd Llywydd SpaceX, Gwynne Shotwell bryd hynny, fod y prosiect yn parhau yn y "cyfnod dylunio wrth i'r cwmni geisio mynd i'r afael â materion yn ymwneud â chost terfynell y defnyddiwr".[21]

Dechrau'r cyfnod datblygu (2016-2019)

Yn Nhachwedd 2016, gwnaeth SpaceX gais gyda’r FCC am “system loeren orbit nad yw’n geosefydlog (NGSO) yn y gwasanaeth lloeren sefydlog gan ddefnyddio’r bandiau amledd Ku- a Ka-”.

Ym Medi 2017, dyfarnodd yr FCC fod yn rhaid i hanner y cytser fod mewn orbit o fewn chwe blynedd i gydymffurfio â thelerau trwyddedu, tra dylai'r system lawn fod mewn orbit o fewn naw mlynedd i ddyddiad y drwydded.[22]

Falcon 9 yn codi o Orsaf Awyrlu Cape Canaveral (CCAFS), Florida, gan gludo 60 o loerennau Starlink i orbit ar 11 Tachwedd 2019

Ym Mai 2018, amcangyfrifodd SpaceX y byddai cyfanswm y gost datblygu ac adeiladu'r cytser yn agosáu at $10 biliwn.[23] Yng nghanol 2018, ad-drefnodd SpaceX yr is-adran datblygu lloerenni yn Redmond, a daeth swyddi sawl aelod o'r tim uwch reoli i ben.[24]

Lansiadau cyntaf (2019–2020)

Ar ôl lansio dwy loeren brawf yn Chwefror 2018, lansiwyd y swp cyntaf o 60 lloeren gweithredol ym Mai 2019.[25]

Yn Nhachwedd 2020, agorwyd gwasanaeth rhyngrwyd beta Starlink i'r cyhoedd.[26] Adroddodd profwyr beta Starlink gyflymderau o dros 150 megabit yr eiliad, uwchlaw'r ystod a gyhoeddwyd ar gyfer y prawf beta cyhoeddus.[27]

Gwasanaeth masnachol (2021-presennol)

Terfynell defnyddiwr Starlink cynnar gyda dysgl, fel y'i gwelwyd yn gynnar yn 2021

Agorwyd rhag-archebion i'r cyhoedd am y tro cyntaf yn yr Unol Daleithiau a Chanada yn gynnar yn 2021.[28]

Yn gynharach roedd yr FCC wedi dyfarnu gwerth $885.5 miliwn o gymorthdaliadau ffederal i SpaceX i gefnogi cwsmeriaid band eang gwledig mewn 35 o daleithiau UDA trwy Starlink [29] ond diddymwyd y pecyn cymorth $885.5 miliwn yn Awst 2022, gyda’r FCC yn nodi bod Starlink “wedi methu â dangos” ei allu i ddarparu’r gwasanaeth a addawyd.[30] Apeliodd SpaceX yn ddiweddarach yn erbyn y penderfyniad gan ddweud eu bod wedi bodloni neu ragori ar yr holl ofynion defnyddio RDOF a oedd yn bodoli yn ystod y cynnig a bod yr FCC wedi creu “safonau newydd na allai unrhyw gynigydd eu bodloni heddiw”.[31]

Yn 2022, cyhoeddodd SpaceX haen gwasanaeth Starlink Business, fersiwn perfformiad uwch o'r gwasanaeth. Mae'n darparu antena mwy a chyflymder rhestredig rhwng 150 a 500 Mbit yr eiliad gyda chost o $2,500 am yr antena a ffi gwasanaeth misol o $500.[32] Mae'r gwasanaeth yn cynnwys cefnogaeth 24/7, wedi'i flaenoriaethu.[32][33] Cymeradwyodd yr FCC hefyd drwyddedu gwasanaethau Starlink i gychod, awyrennau a cherbydau.[34] Arweiniodd y prinder sglodion byd-eang 2020-presennol at ddim ond 5,000 o danysgrifwyr am ddau fis cyntaf 2022 ond cafodd hyn ei ddatrys yn fuan.[35]

Yn Chwefror 2022, cyhoeddodd Musk fod lloerennau Starlink wedi’u hactifadu dros yr Wcrain ar ôl cais gan lywodraeth y wlad i ddisodli gwasanaethau rhyngrwyd a ddinistriwyd yn ystod goresgyniad Rwsia o’r Wcráin yn 2022.

Ym Mai 2022, cyhoeddodd ymchwilwyr milwrol Tsieina erthygl mewn cyfnodolyn a adolygwyd gan gymheiriaid yn amlinellu strategaeth ar gyfer dinistrio cytser Starlink os ydyn nhw'n bygwth diogelwch cenedlaethol Tsieina.[36][37][38] Mae'r ymchwilwyr yn tynnu sylw'n benodol at bryderon ynghylch galluoedd milwrol potensial Starlink. Datganodd Musk bod Starlink i'w ddefnyddio mewn modd heddychlon. Mae swyddogion Rwsia gan gynnwys pennaeth asiantaeth ofod Rwsia Dmitry Rogozin wedi rhybuddio Elon Musk y gallai Starlink ddod yn darged milwrol cyfreithlon yn y dyfodol.[39][40]

Ym Mawrth 2023, adroddodd y cwmni eu bod yn cynhyrchu chwe lloeren Starlink "V2 Mini" y dydd yn ogystal â miloedd o derfynellau defnyddwyr. Mae gan y V2 Mini nodweddion lloeren Gen2 Starlink ond mae angen defnyddio Starship gyda diametr o 9-metr ar loerennau Gen2 er mwyn eu lansio. Roedd gan uned fusnes Starlink un chwarter llif arian-positif yn ystod 2022.

Cyrhaeddodd nifer tanysgrifwyr Starlink ledled y byd 2.3 miliwn erbyn Rhagfyr 2023.[41]

MisTanysgrifwyrCyf
Chwefror 2021≈ 10,000[42]
Mehefin 2021≈ 100,000[43]
Chwefror 2022≈ 250,000
Mai 2022≈ 400,000
Mehefin 2022≈ 500,000
Medi 2022≈ 700,000[44]
Rhagfyr 2022≈ 1,000,000[45]
Mai 2023≈ 1,500,000[46]
Medi 2023≈ 2,000,000[47]
Rhagfyr 2023≈ 2,300,000[48]

Lloerennau milwrol

Elon Musk a'r cadfridog pedair seren Terrence J. O'Shaughnessy yn Ebrill 2019

Mae SpaceX hefyd yn dylunio, yn adeiladu ac yn lansio lloerenni milwrol wedi'u teilwra yn seiliedig ar amrywiadau o'r lloeren Starlink, a'r cwsmer mwyaf adnabyddus yw Asiantaeth Datblygu Gofod (SDA).

Rhaglen Starshield

Yn Rhagfyr 2022, cyhoeddodd SpaceX raglen o'r enw Starshield, rhaglen i ymgorffori cargo milwrol neu lywodraethol ar Starlink Block v1.5 a thechnoleg v2.0.[49] Mae'r lloerennau hyn yn drymach, gyda dwywaith yr arwynebedd na Starlink v1.5 ac mae ganddyn nhw ddau bâr o baneli solar yn hytrach nag un ar Starlink Block v1.5.[50] Er bod Starlink wedi'i gynllunio ar gyfer defnydd masnachol, mae Starshield wedi'i gynllunio ar gyfer defnydd llywodraeth yr UD, gyda ffocws cychwynnol ar dri maes, sef, clustfeinio, cyfathrebu a chynnal llwythi.

Mae lloerennau Starshield yn cael eu hysbysebu fel rhai sy'n gallu integreiddio amrywiaeth eang o lwythi, gan gynnig amlochredd unigryw i ddefnyddwyr. Bydd lloerennau Starshield yn gydnaws â, ac yn rhyng-gysylltu â, lloerennau masnachol presennol Starlink trwy ddolenni rhyng-loeren optegol.[51]

Ym mis Medi 2023, derbyniodd y rhaglen Starshield ei chontract cyntaf gan Lu Gofod yr UD i ddarparu lloerenni cyfathrebu wedi'u teilwra ar gyfer byddin yr UD.[52] Mae hyn o dan raglen “Proliferated Low Earth Orbit” ar gyfer lloerenni LEO, lle bydd Space Force yn dyrannu hyd at $900 miliwn dros y 10 mlynedd nesaf. Er bod 16 o werthwyr yn cystadlu am wobrau, contract SpaceX yw'r unig un sydd wedi'i gyhoeddi hyd yma.[52]

Cyfathrebu milwrol

Yn 2019, dangosodd profion gan Labordy Ymchwil Llu Awyr yr Unol Daleithiau (AFRL) 610  gyswllt data 610 Mbit/s trwy Starlink i awyren Beechcraft C-12 Huron a oedd yn hedfan.[53] Yn ogystal, ar ddiwedd 2019, llwyddodd Awyrlu'r Unol Daleithiau i brofi'r cysylltiad â Starlink ar gunship AC-130 yn llwyddiannus.[54]

Rhyfel Rwsia-Wcrain

Vitali Klitschko, Maer Kyiv, a'i frawd Wladimir Klitschko gyda therfynellau Starlink wedi'u cludo i Kyiv yn ystod goresgyniad Wcráin gan Rwsia yn 2022

Cafodd Starlink ei actifadu yn ystod goresgyniad Rwsia o Wcráin, ar ôl cais gan Lywodraeth Wcrain.[55] Daeth byddin a llywodraeth Wcráin yn ddibynnol ar Starlink i gynnal mynediad i'r Rhyngrwyd dros nos.[56][57][58] Defnyddir Starlink gan Wcrain ar gyfer cyfathrebu, daearleoli taflegrau ac offer milwrol eraill, cadw mewn cysylltiad â'r byd y tu allan a chadw'r seilwaith ynni i weithio.[59][60]

Defnyddir y gwasanaeth ar gyfer rhyfela drwy gysylltu dronau ymladd, dronau morol, systemau cydgysylltu magnelau ac ymosodiadau ar safleoedd milwrol Rwsia.[61][62] Mae SpaceX wedi mynegi amheuon ac wedi ceisio atal defnyddio Starlink gan at ddibenion milwrol Wcrain, hy y tu hwnt i gyfathrebu milwrol ac wedi cyfyngu ar dechnoleg cyfathrebu Starlink at ddefnydd milwrol a'u harfau.[63] Fodd bynnag, cadwodd SpaceX y rhan fwyaf o'u gwasanaethau yn Wcrain ar-lein.[64][65] Mae defnyddio Starlink i gynorthwyo ymosodiadau ar dargedau Rwsiaidd wedi cael ei feirniadu gan y Cremlin.[66]

Rhybuddiodd Musk bod y gwasanaeth yn costio $20 miliwn y mis,[67] ac ym Mehefin 2023 llofnododd Adran Amddiffyn yr Unol Daleithiau gontract gyda SpaceX i ariannu Starlink yn Wcrain.[68][69]

Rhyfel Israel yn erbyn y Palesteiniaid

Yn Hydref 2023 yn dilyn gwrthdaro Israel-Hamas, rhannodd defnyddwyr yr hashnod #starlinkforgaza ar rwydwaith cymdeithasol X Elon Musk (Twitter yn flaenorol), gan fynnu ei fod yn actifadu Starlink yn Gaza ar ôl i Israel ddileu'r gwasanaeth Rhyngrwyd yn Gaza.[70] Atebodd Musk y byddai cysylltedd Starlink yn cael ei ddarparu ar gyfer grwpiau cymorth yn Gaza, a gwnaethpwyd hynny.[71][72]

Cyfeiriadau