Snapchat
Meddalwedd ac ap amlgyfrwng yw Snapchat ar gyfer teclunau symudol fel y tabled neu'r ffôn, meddalwedd a grëwyd gan Evan Spiegel, Bobby Murphy a Reggie Brown, cyn-fyfyrwyr ym Mhrifysgol Stanford. Cafodd y feddalwedd ei datblygwyd gan Snap Inc., a adnabyddid yn wreiddiol fel Snapchat Inc. Pwrpas Snapchat yw danfon lluniau a negeseuon testun a sain i 3ydd person, am gyfnod byr yn unig.
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | gwasanaeth ar-lein, social media app, instant messaging client, ap ffôn, cymuned arlein, very large online platform ![]() |
---|---|
Crëwr | Evan Spiegel, Bobby Murphy, Reggie Brown ![]() |
Dyddiad cyhoeddi | Medi 2011 ![]() |
Dechrau/Sefydlu | Medi 2011 ![]() |
Genre | rhannu delweddau, video sharing, social media ![]() |
Statws hawlfraint | dan hawlfraint ![]() |
Rhagflaenydd | Zenly ![]() |
Enw brodorol | Snapchat ![]() |
Dosbarthydd | App Store, Google Play, Huawei AppGallery ![]() |
Gwefan | https://www.snapchat.com/ ![]() |
![]() |
Y ddau fyfyriwr Brown a Spiegel a greodd y prototeip cyntaf, a alwyd yn "Picaboo", fel prosiect mewn dosbarth yn Stanford. Y syniad oedd creu ap ar gyfer hunlun, rhannu'r llun ac yna'i ddileu ar ôl cyfnod. Mae natur dros dro'r lluniau'n annog gwamalrwydd ac yn pwysleisio mwy ar y llif naturiol o ryngweithio yn hytrach na chadw ac archifo. Yn Ebrill 2011, cyflwynodd Spiegel y prototeip terfynol er mwyn i'r dosbarth archwilio potensial gwaith fel y cynnyrch masnachol.
Daeth Murphy i mewn i'r prosiect er mwyn ysgrifennu'r cod terfynol a chyhoeddwyd y fersiwn gyntaf o Picaboo fel iOS yng Ngorffennaf 2011. Ail-lansiwyd yr ap ym Medi o dan yr enw "Snapchat".
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/d/d1/Snap_on_smartphone.jpg/220px-Snap_on_smartphone.jpg)