Sláintecare

Cynllun diwygio system iechyd Iwerddon

Mae Sláintecare yn raglen 10-mlynedd i ddiwygio system iechyd Gweriniaeth Iwerddon.[1]

Sláintecare
Y rhanbarthau ar draws Gweriniaeth Iwerddon daeth i fodolaeth 1 Mawrth 2024 gyda Sláintecare

Yn 2017 cyhoeddwyd ddogfen ar gynllun diwygio 10 mlynedd Sláintecare gyda chefnogaeth trawbleidiol.[2]

Y weledigaeth ar gyfer Sláintecare yw i ffurfio system iechyd a gofal cymdeithasol o un haen, lle mae gan bawb fynediad at wasanaethau yn ôl yr angen.[3]

Mae argymhellion Sláintecare hefyd yn cynnwys:

  • cyllidio a darparu adnoddau i ddatblygu gwasanaeth iechyd a lles plant
  • dileu taliadau cleifion mewnol am ofal ysbyty cyhoeddus
  • lleihau costau presgripsiwn ar gyfer deiliaid cardiau meddygol
  • dileu tâl yyn yr Adran Achosion Brys
  • sicrhau gofal sylfaenol cyffredinol
  • gwahanu cyllid cyhoeddus a phreifat mewn ysbytai aciwt
  • dileu'r gallu i gwmniay yswiriant gyllidio gofal iechyd breifat mewn ysbytai cyhoeddus[4]

Disgrifiodd Ireland's Future y cynllun fel sail ar gyfer system iechyd mewn Iwerddon unedig.[4] Yn ogystal, disgrifiodd newyddiadurwr yn yr Irish Examiner mai creu ac ariannu system Sláintecare fyddai'r peth mwyaf diriaethol a ellir ei wneud i ddileu y ffin ar ynys Iwerddon.[5]

Gweler hefyd

Cyfeiriadau