Sian Owen (awdur)
Cyfieithydd, golygydd, ac awdur Cymreig oedd Sian Owen (8 Ebrill 1965 – 3 Hydref 2013).[1][2]
Sian Owen | |
---|---|
Ganwyd | 8 Ebrill 1965 Llanuwchllyn |
Bu farw | 3 Hydref 2013 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, cyfieithydd, golygydd, bardd |
Bywgraffiad
Ganed Sian Owen yn Llanuwchllyn a magwyd hi yn Ynys Môn. Mynychodd Ysgol Uwchradd Bodedern cyn astudio ffiseg ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth ac enillodd PhD mewn ysgrifennu creadigol yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor. Bu'n gweithio ar ei liwt ei hun fel cyfieithydd, awdur a golygydd. Bu hefyd yn cynhyrchu rhaglenni ar gyfer BBC Radio Cymru a golygu gwerslyfrau gwyddonol CBAC.[1][2]
Enillodd Gystadleuaeth Farddoniaeth Ryngwladol Féile Filíochta yn 2007.[2]
Ynys Môn oedd lleoliad ei nofel gyntaf Mân Esgyrn a ddaeth yn ail agos yng nghystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Meirion a'r Cyffiniau 2009. Cyrhaeddodd hefyd restr hir Llyfr y Flwyddyn yn 2010.
Sian oedd y ferch gyntaf erioed i gael ei chodi'n Dderwydd Gweinyddol Gorsedd Eisteddfod Môn. Enillodd Gadair, Coron a Medal Ryddiaith Eisteddfod Môn.[3] a bu'n aelod o dîm Talwrn y Beirdd Bro Alaw.[2]
Roedd ganddi dri o blant a bu'n byw yn Marian-glas, Ynys Môn.[4] Bu farw o ganser yn Hydref 2013.[5]
Llyfryddiaeth
- Mân Esgyrn, Hydref 2009 (Gwasg Gomer)
- Darn o'r haul, Gorffennaf 2015 (Barddas)