Gwobr Laurence Olivier, CBE, Gwobr Urdd Cyfarwyddwyr America, Gwobr yr Academi i'r Cyfarwyddwr Gorau, Gwobr Golden Globe am Gyfarwyddwr Gorau, Marchog Faglor, Gwobr y Bwrdd Adolygu Cenedlaethol am y Ffilm Orau, Gwobr Arbennig Cymdeithas Theatr Llundain, Dallas-Fort Worth Film Critics Association Award for Best Director, Dallas-Fort Worth Film Critics Association Award for Best Director
Mae Samuel Alexander Mendes CBE (ganed 1 Awst1965) yn gyfarwyddwr ffilm a llwyfan Seisnig. Mae'n fwyaf adnabyddus am ei gynhyrchiad 1998 o Cabaret a serennodd Alan Cumming, a'i ffilm gyntaf American Beauty, a enillodd Wobr yr Academi am y Cyfarwyddwr Gorau.
Priododd Mendes yr actores Brydeinig Kate Winslet yn Anguilla yn y Caribi ar y 24ain o Fai, 2003. Ganwyd eu plentyn cyntaf, Joe Alfie Mendes, ar yr 22ain o Ragfyr, 2003. Mae gan Mendes lys-ferch hefyd, Mia Honey Threapleton, o briodas cyntaf Winslet i'r cyfarwyddwr cynorthwyol Jim Threapleton. Bellach mae'r teulu'n byw yn Ninas Efrog Newydd a Church Westcote Manor, Church Westcote, Swydd Gaerloyw, Lloegr.