Salem (y llun)

paentiad gan Sydney Curnow Vosper

Darlun a baentiwyd gan Sydney Curnow Vosper ym 1908 yw Salem. Rhoddwyd y teitl Salem ar y llun gan mai golygfa o Gapel Salem, ym Mhentre Gwynfryn ydyw – tua milltir i'r dwyrain o Lanbedr wrth gymer Afon Artro ac Afon Cwmnantcol.

Salem
Salem (1908).
ArlunyddSydney Curnow Vosper
Blwyddyn1908
MeunyddDyfrlliw ar bapur
Maint77 cm × 53 cm ×  (30 in × 21 in)
LleoliadOriel Gelf yr Arglwyddes Lever, Cilgwri

Mae'n ddarlun gan Sydney Curnow Vosper RWS, RWA (29 Hydref 1866 – 10 Gorffennaf 1942) o Siân Owen (1837–1927) o Dy’n-y-fawnog[1] yn eistedd yn y capel yn ei siôl Gymreig. Cred rhai eu bod yn medru gweld llun y Diafol ym mhlygiadau'r siôl. Mae paentiad Capel Salem i'w gweld heddiw yn Oriel Gelf yr Arglwyddes Lever (Lady Lever Art Gallery) yn Port Sunlight, Cilgwri, Lloegr.

Daeth y llun yn boblogaidd oherwydd y cysylltiad â sebon. Prynwyd y llun yn 1909 gan y diwydiannwr William Hesketh Lever am 100 gini. Defnyddiwyd y llun i hyrwyddo "Sunlight Soap". Daeth tocyn bychan am ddim gyda phob bar o sebon a gellid cyfnewid y tocynnau hyn am gopi o'r llun iawn[2] ac effaith hyn, wrth gwrs, oedd i lawer iawn o gartrefi dderbyn copi o'r llun – y llun cyntaf yn y rhan fwyaf o gartrefi.

Ail fersiwn

Yn 1988 datgelodd rhaglen gylchgrawn S4C Hel Straeon fod fersiwn ychydig yn wahanol o'r llun yn bodoli, a beintiwyd ar gyfer brawd-yng-nghyfraith yr artist, Frank Treharne James. Roedd James wedi dotio ar y llun ac erfynodd i'r arlunydd baentio copi manwl iddo. Nid yw'r llun yn copi perffaith am fod rhai amrywiadau - nid oes cloc na rheilen ar gyfer cotiau a mae un cymeriad ar goll. Dilyswyd y fersiwn yma o'r llun gan awdurdod ar luniau Cymreig, Peter Lord.[3] Roedd y llun yn berchen i un o ddisgynyddion Frank James ac fe'i arddangoswyd am ychydig yng Nghastell Cyfarthfa yn 2002.[4]

Yn Medi 2019 roedd bwriad i werthu'r ail lun yma. Roedd cwmni Rogers Jones & Co am gynnwys y llun mewn ocsiwn yng Nghaerdydd ar 19 Hydref gydag amcan bris wedi ei osod rhwng £40,000 a £60,000. Er hynny, cyhoeddwyd ar 10 Hydref 2019 fod Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi prynu'r llun "ar ran y genedl" er bod manylion y cytundeb yn parhau yn breifat.[5][6]

Capel Salem fel ag y mae heddiw (2010)

Pareidolia

Mae'r gred bod modd gweld y diafol yn y clogyn ac ellyll yn sipio drwy'r ffenestr, o bosib, yn un o’r enghreifftiau mwyaf eiconig o pareidolia Cymreig.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Darllen pellach