Sacha Baron Cohen

sgriptiwr ffilm ac actor a aned yn Hammersmith yn 1971

Actor, digrifwr ac ysgrifennwr Seisnig ydy Sacha Noam Baron Cohen (Hebraeg: סשה נועם ברון כהן, ganed 13 Hydref, 1971). Mae'n fwyaf adnabyddus am ei gymeriadau comedi Ali G (ffug berson ifanc o un o faestrefi Staines), Borat Sagdiyev (newyddiadurwr gwrth-semitaidd a rhywiaethol), a Brüno (newyddiadurwr ffasiwn hoyw camp dros ben llestri Awstriaidd). Graddiodd ym Mhrifysgol Caergrawnt.[1]

Sacha Baron Cohen
FfugenwAli G. Edit this on Wikidata
Ganwyd13 Hydref 1971 Edit this on Wikidata
Hammersmith Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethactor ffilm, digrifwr, cynhyrchydd ffilm, actor llais, sgriptiwr, cynhyrchydd teledu, actor, cynhyrchydd, enwog, model, actor teledu Edit this on Wikidata
Adnabyddus amDa Ali G Show, Borat Edit this on Wikidata
TadGerry Baron Cohen Edit this on Wikidata
MamDaniella Naomi Cohen Edit this on Wikidata
PriodIsla Fisher Edit this on Wikidata
PerthnasauSimon Baron-Cohen Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Golden Globe am Actor Gorau - Ffilm Sioe-gerdd neu Gomedi, MTV Movie Award for Best Comedic Performance, Gwobr Cymdeithas Beirniaid Ffilm Los Angeles ar gyfer yr Actor Gorau, San Francisco Film Critics Circle Award for Best Actor, Toronto Film Critics Association Award for Best Actor, Gwobr MTV Movie am y Gusan Orau, Golden Globes, British Academy Television Awards, MTV Comedic Genius Award Edit this on Wikidata

Yn ei weithiau, cynhalia gyfweliadau â ffigurau parchus wrth chwarae rhan un o'i gymeriadau er mwyn gwneud sbort ohonynt. Yn amlach na pheidio, ni sylweddola'r bobl sy'n cael eu cyfweld nad yw Cohen o ddifri. Cydnabuwyd llawer o waith Sacha Baron Cohen gydag enwebiadau Emmy, enwebiad am Oscar am yr Addasiad Orau o Ffilm, Gwobr BAFTA, a Golden Globe am yr Actor Gorau am ei waith yn y ffilm Borat: Cultural Learnings of America for Make Benefit Glorious Nation of Kazakhstan.

Ar ôl i'r ffilm Borat gael ei rhyddhau, dywedodd Cohen y byddai'n ymddeol ar ôl Borat ac Ali G am fod y cyhoedd wedi dod yn rhy gyfarwydd gyda'i gymeriadau. Yn yr un modd, dywedodd yr un peth ar ôl i'r ffilm Brüno gael ei rhyddhau, gan ddatgan y byddai'r cymeriad yn ymddeol.

Ffilmograffiaeth

BlwyddynFfilmRôlNodiadau
1995Jack and Jeremy's Police 4Person a ddienyddiwydRhaglen arbennig ar gyfer y teledu
1995Pump TVCyflwynydd teledu, sianel loeren leol y DURhaglen arbennig ar gyfer y teledu
1996Punchdi-enwffilm fer
1998Live from the LighthouseAli GRhaglen arbennig ar gyfer y teledu
1998-1999The 11 O'Clock ShowAli GCyfres deledu
2000The Jolly Boys' Last StandVinnie
Da Ali G Show (DU)Ali G, Borat Sagdiyev, BrünoCyfres deledu
2002Ali G IndahouseAli G, Borat Sagdiyev
2003SpyzJames Bond (Ali G)ffilm fer
2003-2004Da Ali G Show (UDA)Ali G, Borat Sagdiyev, BrünoTV series
2005Curb Your EnthusiasmLarry's Guide #2 (guest star)Season 5, episode 10 "The End"
MadagascarKing JulienLlais
2006Talladega Nights: The Ballad of Ricky BobbyJean Girard
Night of Too Many Stars: An Overbooked Event for Autism EducationBorat SagdiyevRhaglen arbennig ar gyfer y teledu
Borat: Cultural Learnings of America for Make Benefit Glorious Nation of KazakhstanBorat Sagdiyev
2007Sweeney Todd: The Demon Barber of Fleet StreetSignor Adolfo Pirelli
2008Madagascar: Escape 2 AfricaKing JulienLlais
2009BrünoBrüno
2012Madagascar 3: Europe's Most WantedKing JulienLlais

Cyfeiriadau


Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.