Ryan Giggs

chwaraewr, hyfforddwr a rheolwr pel-droed

Cyn-chwaraewr a hyfforddwr pêl-droed Cymreig yw Ryan Joseph Giggs OBE[2] (ganwyd Ryan Joseph Wilson; 29 Tachwedd 1973). Bu'n is-reolwr ar Manchester United; clwb lle treuliodd 24 o flynyddoedd yn chwarae yn Uwch Gynghrair Lloegr. Roedd hefyd yn chwaraewr rhyngwladol â thîm cenedlaethol Cymru. Aeth ymlaen i fod yn reolwr tîm cenedlaethol Cymru.

Ryan Giggs

Giggs yn chwarae i Manchester United yn 2010.
Gwybodaeth Bersonol
Enw llawnRyan Joseph Giggs[1]
Dyddiad geni (1973-11-29) 29 Tachwedd 1973 (50 oed)
Man geniCaerdydd, Cymru
Taldra1.79m
SafleCanol Cae
Y Clwb
Clwb presennoldim
Gyrfa Ieuenctid
1985–1987Manchester City
1987–1990Manchester United
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
1990–2014Manchester United672(114)
Tîm Cenedlaethol
1989Lloegr dan 161(1)
1989Cymru dan 183(0)
1991Cymru dan 211(0)
1991–2007Cymru64(12)
2012Prydain Fawr4(1)
Timau a Reolwyd
2014Manchester United (rheolwr dros dro)
2014–2016Manchester United (is-reolwr)
2018–2022Cymru
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd..

† Ymddangosiadau (Goliau).

‡ Capiau cenedlaethol a goliau: gwybodaeth gywir ar 20:55, 20 Gorffennaf 2012 (UTC)
Giggs ym Mai 2018

Cyhoeddodd ei ymddeoliad o bêl-droed rhyngwladol ar 2 Mehefin 2007 cyn ymddeol o bêl-droed yn gyfan gwbwl ar 19 Mai 2004[3]

Ar 15 Ionawr 2018 cyhoeddwyd mai Giggs oedd rheolwr newydd tîm cenedlaethol Cymru, yn dilyn Chris Coleman.[4] Cafodd ei arestio yn Tachwedd 2020 a sefodd nôl o'i waith fel rheolwr Cymru. Yn ddiweddarach cafodd ei gyhuddo o ymddwyn mewn modd oedd yn rheoli drwy orfodaeth ac o ymosod ar ei gyn-gariad. Roedd yn gwadu'r cyhuddiadau. Ar 20 Mehefin 2022 ymddiswyddodd o'r swydd rheolwr.[5]

Bywyd cynnar

Lynne Giggs yw ei fam a chwaraewr rygbi cynghrair oedd ei dad, Danny Wilson. Fe'i anwyd yn Ysbyty Dewi Sant, Caerdydd a fe'i magwyd yn ardal Trelái. Yn 1980, pan oedd yn 6 mlwydd oed, ymunodd ei dad gyda chlwb rygbi cynghrair Swindon RLFC ac felly symudodd y teulu i Swinton, tref yn Salford. O'r herwydd mae'n siarad gydag acen Manceinion. Roedd ei dad o dras gymysg (o ddisgyniad Sierra Leone) ac mae Giggs wastad wedi dangos balchder yn ei dreftadaeth gymysg.[6]

Torri record ar ôl record

Giggs yw'r chwaraewr sydd wedi gwasanaethu hiraf yn Manchester United. Ers ei ymddangosiad cyntaf dros clwb yn nhymor 1990-1991, mae wedi bod yn chwaraewr cyson ers tymor 1991-1992. Ef sydd wedi chwarae'r ail nifer fwyaf o gemau cystadleuol dros glwb (yn ail i Bobby Charlton), ac mae'n dal y record am y nifer fwyaf o wobrau tîm a enillwyd gan chwaraewr (23).[7] Ers 1992, mae hefyd wedi casglu naw medal enillydd Uwch Gyngrhair Lloegr, pedwar medal enillydd Cwpan Lloegr, dau fedal Cwpan Cynghrair ac un medal fel enillydd yr UEFA Champions League. Mae ganddo hefyd fedalau am ddod yn ail mewn dau rownd derfynol Cwpan Lloegr a dau rownd derfynol Cwpan y Gynghrair, yn ogystal â bod yn rhan o bedwar tîm Manchester United sydd wedi gorffen yn ail yn y gynghrair.

Y blynyddoedd cynnar

Bu Giggs yn gapten ar dîm bechgyn ysgol Lloegr (roedd pob bachgen ysgol yn Lloegr yn gymwys i chwarae i'r tîm hwn beth bynnag oedd eu cenedligrwydd), ond chwaraeodd fel aelod o Dîm Cenedlaethol Cymru pan oedd yn oedolyn. Enillodd ei gap cyntaf dros Gymru ac yntau ond yn 17 oed yn 1991. Ef oedd y chwaraewr ieuengaf erioed ar y pryd i chwarae dros ei wlad. Apwyntiwyd ef yn gapten tîm Cymru yn 2004.

Giggs yn Nhachwedd 2009.

Bywyd personol

Yn 2011 cafodd Giggs ei enwi fel CTB yn yr achos CTB v News Group Newspapers pan enillodd gorchymyn ffrwyno i atal y wasg rhag datgelu manylion am ei berthynas ag Imogen Thomas.

Ystadegau gyrfa

Gyrfa gyda Manchester United:

Hyd y gêm a chwaraewyd 9 Mai 2010

CystadleuaethDechrauDiweddYmddangosiadauGoliau
Cynghrair Lloegr1991588108
Cwpan FA19916510
Cwpan Cynghrair Lloegr1991369
Cystadlaethau Ewropeaidd199413228
Gemau cystadleuol eraill1991171
Cyfanswm1991838156

Anrhydeddau

Enillodd wobr PFA Young Player of the Year ddwywaith (1992 a 1993), gan ddod y chwaraewr cyntaf i ennill y wobr ddwy flynedd yn olynol, camp a gafodd ei efelychu gan Robbie Fowler a'i gyd-aelod tîm presennol, Wayne Rooney yn unig. Mae cefnogwyr pêl-droed hefyd wedi pleidleisio gôl Giggs yn rownd cyn-derfynol Cwpan yr FA yn erbyn Arsenal (pan gurodd pedwar amddiffynnwr gan gynnwys (Lee Dixon ddwywaith, i sgorio), i fod yn gôl gorau erioed i Manchester United.[angen ffynhonnell]

Derbyniodd Giggs OBE yn rhestr anrhydeddau pen-blwydd y Frenhines, 2007.

Clwb

Manchester United (1990-2014)

Mae Giggs yn dal sawl record arall hefyd, gan gynnwys y sgoriwr amlaf yn yr FA Premier League nad oedd yn chwarae yn safle saethwr ar y pryd, ac mae'n dal y record am sgorio gôl gyflymaf Manchester United (15 eiliadau), yn Tachwedd 1995 yn erbyn Southampton.

Unigol

  • Barclays Premiership Player of the Month: Awst 2006, Chwefror 2007.
  • Chwarawr y Gêm, Intercontinental Cup: 1999
  • Gwobr Chwaraewr y Flwyddyn Manchester United: 2005-2006
  • European Footballer of the Year Dan 21: (1993)
  • Chwarawr y Flwyddyn, Cymru: 1996, 2006
  • Sefydlwyd yn English Football Hall of Fame: 2005
  • Sefydlwyd yn Nhîm y Degawd y Gyngrhair: 2003
  • Sefydlwyd yn Nhîm y ganrif FA Challenge Cup: 2006
  • Yr unig chwaraewr Manchester United i ennill dau Gwpan y Gynghrair
  • Yr unig chwaraewr i sgorio mewn 12 twrnamaint Champions League canlynol
  • Yr unig chwaraewyr i sgorio ym mhob tymor Uwchgynghrair Lloegr ers ei ddyfodiad
  • Aelod o PFA Team of the Year: 2007, 2001, 1996, 1995, 1994, 1993
  • OBE am wasanaethau i bêl-droed
Tîm cendlaethol pêl-droed Cymru
YearAppsGoals
199120
199230
199362
199411
199530
199631
199731
199810
199931
200041
200140
200250
200371
200430
200563
200650
200741
Total6412
Rhagflaenydd:
Neville Southall
Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn,
BBC Cymru

1996
Olynydd:
Scott Gibbs
Rhagflaenydd:
Shane Williams
Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn,
BBC Cymru

2009
Olynydd:
Gareth Bale
Rhagflaenydd:
Lee Sharpe
PFA Young Player of the Year
1992 & 1993
Olynydd:
Andy Cole
Rhagflaenydd:
Gary Neville
Dirprwy-gapten Manchester United F.C.
2005 - 2014
Olynydd:
'''

Dolenni allanol

Gweler hefyd

Cyfeiriadau