Ricardo Piglia
Awdur straeon byrion a nofelau yn yr iaith Sbaeneg, beirniad llenyddol, ac academydd Archentaidd oedd Ricardo Piglia (24 Tachwedd 1941 – 6 Ionawr 2017) sy'n nodedig am gyflwyno ffuglen hard-boiled i lên yr Ariannin.[1]
Ricardo Piglia | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 24 Tachwedd 1941 ![]() Adrogué ![]() |
Bu farw | 6 Ionawr 2017 ![]() o sglerosis ochrol amyotroffig ![]() Buenos Aires ![]() |
Dinasyddiaeth | yr Ariannin ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, newyddiadurwr, sgriptiwr, beirniad llenyddol ![]() |
Cyflogwr |
|
Adnabyddus am | Respiración artificial, Burnt Money ![]() |
Arddull | rhyddiaith ![]() |
Gwobr/au | City of Barcelona Award, Gwobr Formentor, Gwobr Narratif Ibero-Americanaidd Manuel Rojas, José María Arguedas Prize, Gwobr Rómulo Gallegos, Roger Caillois Prix, Premio Iberoamericano de Letras José Donoso, Cymrodoriaeth Guggenheim, diamond Konex award ![]() |
llofnod | |
![]() |
Astudiodd ym Mhrifysgol Genedlaethol La Plata yn 1961–62. Cyhoeddodd ei gasgliad cyntaf o straeon byrion, La invasión, yn 1967. Roedd yn hoff iawn o ffuglen dditectif boblogaidd, er iddo ddefnyddio themâu deallusol a chyfeiriadau cymhleth yn ei straeon ei hun. Ymhlith ei weithiau eraill mae'r casgliadau Nombre falso (1975), Prisión perpetua (1988), a Cuentos morales (1995), a'r nofelau Respiración artificial (1980), La ciudad ausente (1992), a Blanco nocturno (2010).
Ysgrifennodd hefyd am hanes llenyddiaeth a diwylliant poblogaidd, gan gynnwys gweithiau am Jorge Luis Borges, Roberto Arlt, Julio Cortázar, a Manuel Puig. Hyrwyddodd Serie Negra, cyfres o gyfieithiadau Sbaeneg o straeon hard-boiled Americanaidd. Addysgodd mewn sawl prifysgol, gan gynnwys Harvard a Princeton yn yr Unol Daleithiau.