Rhedwyr (teulu o adar)

teulu o adar
Rhedwyr
Burhinidae
Amrediad amseryddol:
Oligosen - presennol
Rhedwr Awstralia, Burhinus grallarius
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas:Animalia
Ffylwm:Chordata
Dosbarth:Aves
Urdd:Charadriiformes
Teulu:Burhinidae
Mathews, 1912
Genera
  • Burhinus
  • Esacus
  • Wilaru?

Grŵp o adar ydy'r Rhedwyr a elwir hefyd yn 'deulu' (enw gwyddonol neu Ladin: Burhinidae; Saesneg: stone-curlews).[1] Mae'r teulu hwn o adar o fewn yr urdd Charadriiformes.[2][3]

Ceir naw rhywogaeth oddi fewn i deulu'r Rhedwyr (neu Burhinidae), ac maent i'w canfod ar hyd a lled ardaloedd trfofannol a chynnes, gyda dwy rywogaeth yn Awstralia. Er y caiff y teulu ei adnabod fel 'rhydwyr' (waders), cynefinoedd sych neu led-sych yw eu dewis, fel arfer.

O ran maint, maen nhw'n ganolig - mawr, gyda phigau cryf melyn-du neu ddu a llygaid mawr melyn, a wna iddynt edrych yn debyg i ymlusgiad.

Rhestr Wicidata:

teuluenw tacsondelwedd
Rhedwr AwstraliaBurhinus grallarius
Rhedwr SenegalBurhinus senegalensis
Rhedwr brychBurhinus capensis
Rhedwr mawr y moelyddEsacus recurvirostris
Rhedwr rhesogBurhinus bistriatus
Rhedwr y dŵrBurhinus vermiculatus
Rhedwr y moelyddBurhinus oedicnemus
Rhedwr y traethEsacus magnirostris
Rhedwr yr AndesBurhinus superciliaris
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Cyfeiriadau

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: