Pumlumon

mynydd yng Ngheredigion

Pumlumon yw'r mynydd uchaf yng nghanolbarth Cymru, yn yr Elenydd. Ceir pum prif gopa ar y mynydd: yr uchaf yw Pen Pumlumon Fawr (752 m). Mae ochrau gogleddol y mynydd-dir yn greigiog a'r ochrau deheuol yn llwm a mawnog.

Pumlumon
Mathmynydd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.467°N 3.783°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN7897286945 Edit this on Wikidata
Map

Ystyr llumon yw "simnai" neu "corn y mwg". Felly "Y Pum Simnai" yw ystyr lythrennol yr enw Pumlumon (llurguniad Seisnigaidd yw'r ffurf Plynlimon). Y pum llumon yw:

Mae'r mynydd yn gorwedd yng ngogledd-ddwyrain Ceredigion gan ffurfio pwynt(au) uchaf yr ucheldir mawnog agored sy'n gorwedd rhwng Aberystwyth i'r gorllewin, Machynlleth i'r gogledd, Llanidloes i'r dwyrain a Ponterwyd i'r de. Ar lethrau dwyreiniol Pumlumon, o fewn tair milltir i'w gilydd, ceir tarddleoedd afonydd Hafren (yr afon hwyaf ym Mhrydain) a Gwy. Yng nghesail y mynydd, islaw ymyl ysgathrog gogledd Pumlumon, mae Llyn Llygad Rheidol, tarddle afon Rheidol. I'r gorllewin o'r mynydd ceir cronfa ddŵr Nant-y-moch.

Ymladdwyd Brwydr Hyddgen ger Pumlumon yn haf 1401, pan drechodd lluoedd Owain Glyndŵr lu o Saeson a Ffleminiaid. Bu ardal Pumlumon yn gadarnle i wŷr Glyn Dŵr ar gyfer ymosodiadau ar ardaloedd yn y Gororau.

Cerdded

Y llwybr hawsaf i gopa Pen Pumlumon Fawr yw'r hwnnw sy'n cychwyn o Eisteddfa Gurig, tua 427 m (1,400 troedfedd) i fyny ger y bwlch a ddringir gan yr A44 rhwng Aberystwyth a Llangurig. Ceir llwybr arall sy'n cychwyn o Nant-y-moch. Mae ardal Pumlumon yn adnabyddus am ei thirwedd mawnog a nodweddir gan nifer o gorsydd, ffrydiau a llynnoedd bychain. Mewn niwl mae'n gallu bod yn dir twyllodrus i gerddwyr ac mae map a chwmpawd yn hanfodol.

Pumlumon mewn llenyddiaeth

Hedegodd y "celwyddfarwn" Münchhausen o Bumlumon i'r Unol Daleithiau yn y llyfr enwog, Anturiaethau Barwn Münchhausen gan Rudolph Erich Raspe, pennod 31.

Copaon

Golygfa o Fanc y Garn
Lleoliad y copaon o Aberystwyth i'r Trallwng
Rhwng Aberystwyth a'r Trallwng
EnwCyfesurynnau OSCyfesurynnau Daearyddol
Banc Bugeilyn:SN826925 map 52.517°N, 3.731°W
Banc Bwlchygarreg:SN729918 map 52.509°N, 3.874°W
Banc Bwlchygarreg (copa gorllewinol):SN716914 map 52.505°N, 3.893°W
Banc Llechwedd-mawr:SN775898 map 52.492°N, 3.805°W
Banc Mynyddgorddu:SN667866 map 52.461°N, 3.963°W
Banc y Garn:SN706844 map 52.442°N, 3.905°W
Banc yr Wyn:SN741902 map 52.495°N, 3.855°W
Bryn Amlwg:SN921973 map 52.562°N, 3.593°W
Bryn y Fan:SN931884 map 52.483°N, 3.575°W
Bryn y Fedwen:SN840953 map 52.543°N, 3.711°W
Bryn yr Ŵyn:SN839925 map 52.517°N, 3.712°W
Bryn-hir:SN615861 map 52.455°N, 4.039°W
Bryn-y-Brain:SN817997 map 52.582°N, 3.747°W
Bryn-y-tail:SN916874 map 52.473°N, 3.597°W
Carn Hyddgen (Carn Gwilym):SN792908 map 52.501°N, 3.781°W
Carnedd Wen:SH924099 map 52.676°N, 3.592°W
Carnfachbugeilyn:SN826903 map 52.497°N, 3.73°W
Cefn Coch (Ffridd Esgair-yr-owen):SH815025 map 52.607°N, 3.751°W
Cefn Crin:SJ145045 map 52.631°N, 3.264°W
Clipyn Du (Tarren Bwlch-gwyn) (Siambr Trawsfynydd):SN799931 map 52.522°N, 3.771°W
Coed Mawr:SO013874 map 52.475°N, 3.454°W
Dinas (mynydd):SN904885 map 52.483°N, 3.615°W
Disgwylfa Fawr:SN737847 map 52.445°N, 3.859°W
Drosgol:SN759878 map 52.473°N, 3.828°W
Drybedd:SN772833 map 52.433°N, 3.807°W
Esgair Ddu:SH873106 map 52.681°N, 3.668°W
Esgair y Maesnant (copa de-ddwyreiniol):SN842856 map 52.456°N, 3.705°W
Ffridd Pen-y-Graig:SH842018 map 52.601°N, 3.711°W
Foel Fadian:SN828953 map 52.542°N, 3.729°W
Foel Fras (Pumlumon):SN765926 map 52.517°N, 3.821°W
Foel Grafiau:SN765920 map 52.511°N, 3.821°W
Foel Uchaf:SN802911 map 52.504°N, 3.766°W
Fron Goch:SH822013 map 52.596°N, 3.74°W
Garreg-hir:SN998977 map 52.567°N, 3.479°W
Llechwedd Hirgoed (copa de-ddwyreiniol):SN820832 map 52.433°N, 3.737°W
Llechwedd Hirgoed (copa gorllewinol):SN813836 map 52.437°N, 3.747°W
Llechwedd y Glyn:SN864872 map 52.47°N, 3.673°W
Moel Hyddgen (Pen y Darren):SN764943 map 52.532°N, 3.823°W
Moel y Llyn:SN712916 map 52.507°N, 3.899°W
Mynydd Moelfre:SN848983 map 52.57°N, 3.701°W
Mynydd Garth-Gwynion:SN733986 map 52.57°N, 3.87°W
Newydd Fynyddog:SH914004 map 52.59°N, 3.604°W
Pen Carreg Gopa:SN721947 map 52.535°N, 3.887°W
Pen Creigiau'r Llan:SN745939 map 52.528°N, 3.851°W
Pen Pumlumon Arwystli:SN814877 map 52.474°N, 3.747°W
Pen Pumlumon Llygad-bychan (copa dwyreiniol):SN799871 map 52.468°N, 3.769°W
Pen Pumlumon Llygad-bychan (is-gopa):SN801873 map 52.47°N, 3.766°W
Pen yr Allt-fawr:SN787961 map 52.549°N, 3.79°W
Pen-caenion:SO141964 map 52.558°N, 3.268°W
Pencerrigtewion:SN800881 map 52.477°N, 3.768°W
Penglais:SN595831 map 52.427°N, 4.067°W
Pumlumon Cwmbiga:SN830899 map 52.494°N, 3.724°W
Pumlumon Fach:SN787874 map 52.471°N, 3.787°W
Pumlumon Fawr:SN789869 map 52.466°N, 3.784°W
Rhos Fawr (mynydd):SN999883 map 52.483°N, 3.475°W
Stingwern Hill:SJ132014 map 52.603°N, 3.283°W
Upper Park:SJ189052 map 52.638°N, 3.199°W
Y Foel:SN838842 map 52.443°N, 3.711°W
Y Garn (Pumlumon):SN775851 map 52.45°N, 3.803°W

Gweler hefyd

Ffynonellau

  • Terry Marsh, The Mountains of Wales (Llundain, 1985)
  • Ioan Bowen Rees, Dringo Mynyddoedd Cymru (Dinbych, 1965)