Plaid Gomiwnyddol Tsieina

Plaid wleidyddol yng Ngweriniaeth Pobl Tsieina yw Plaid Gomiwnyddol Tsieina. Sefydlwyd ym 1921, ac ym 1949 trechodd y Kuomintang gan ennill Rhyfel Cartref Tsieina. Mae'r blaid wedi llywodraethu Gweriniaeth Pobl Tsieina ers hynny.[1]

Arwyddlun Plaid Gomiwnyddol Tsieina

Aelodaeth

Hon yw'r blaid wleidyddol fwyaf yn y byd, a chanddi 86.7 miliwn o aelodau.[2] Mae ei haelodau yn bennaf yn swyddogion y llywodraeth, swyddogion y fyddin, ffermwyr, a gweithwyr cwmnïau dan berchenogaeth y wladwriaeth. Dim ond tua chwarter o'r aelodau sy'n fenywod.[3]

Cyfeiriadau