Pietro d'Abano
Meddyg, athronydd naturiol, ac esoterydd Eidalaidd oedd Pietro d'Abano (Lladin: Petrus de Apono neu Petrus Aponensis (Pedr o Abano)[1]; 1250au – 1316).
Pietro d'Abano | |
---|---|
Portread o Pietro d'Abano gan Justus van Gent a Pedro Berruguete (tua 1476). | |
Ganwyd | c. 1250 Abano Terme |
Bu farw | 1316 Rhufain |
Galwedigaeth | athronydd, meddyg, athro cadeiriol, astroleg, seryddwr |
Cyflogwr | |
Mudiad | School of Padua |
Ganed yn Abano Terme, yng Nghomiwn Padova. Astudiodd yn gyntaf ym Mhrifysgol Padova. Aeth i'r Ymerodraeth Fysantaidd i ddysgu'r iaith Roeg, a thrigodd yng Nghaergystennin hyd at 1300, pryd teithiodd i Ffrainc i gyflawni ei astudiaethau ym Mhrifysgol Paris. Mae'n bosib iddo ysgrifennu ei draethawd Conciliator differentiarum philosophorum et praecipue medicorum ym Mharis. Dychwelodd Pietro i Brifysgol Padova ym 1307 ac yno fe addysgai athroniaeth a meddygaeth. Ymddiddorai hefyd mewn sêr-ddewiniaeth ac alcemi.
Enillodd enw mawr fel athro meddygaeth, ac o'r herwydd fe'i cyhuddwyd gan ei gyfoedion a genfigenasant wrtho o alw ar gythreuliaid i drin ei gleifion. Byddai'n ennyn ofnau'r Eglwys yn ogystal â'r athrawon eraill yn Padova, a galwyd Pietro gan y Chwilys ar amheuaeth ei fod yn eugredwr neu'n anffyddiwr am iddo wadu yr enedigaeth wyryfol a gwyrthiau'r Iesu. Cafwyd yn ddieuog yn yr achos cyntaf, o heresi, ond bu farw Pietro yn y ddalfa cyn iddo wynebu ei ail dreial. Rhyw ddeugain mlynedd wedi ei farwolaeth, fe'i cafwyd yn euog gan y Chwilys a chodwyd ei gorff o'r pridd er mwyn ei losgi.[2]