Penderfyniad 68/262 Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig

Cadarnhawyd Penderfyniad 68/262 Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ar 27 Mawrth 2014 gan 68fed sesiwn Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig. Derbyniwyd y cynnig, a alwyd yn "Territorial integrity of Ukraine", fel ymateb i Rwsia'n meddiannu'r Crimea. Nid yw'r rhwymiad yn un gorfodol a chafodd ei gadarnhau gan 100 o aelod-wladwriaethau. Mae'r Penderfyniad yn cadarnhau ffiniau Wcráin a Refferendwm y Crime, 2014. Pleidleisiodd 11 o aelod-wladwriaethau yn erbyn y Cynnig, ymataliodd 58 ac roedd 24 yn absennol.

Cynigiwyd gan Ganada, Costa Rica, yr Almaen, Lithwania, Gwlad Pwyl a'r Wcrain.[1] Cyfarfu'r Cynulliad Cyffredinol saith gwaith cyn hynny i drafod yr argyfwng, heb benderfyniad, gan i Rwsia ddefnyddio'r hawl i feto (ymatal).[2]

Cyfeiriadau