Pencampwriaethau Seiclo Ffordd y Byd, UCI
Pencampawriaethau'r byd ar gyfer rasio seiclo ffordd yw Pencampwriaethau Seiclo Ffordd y Byd, UCI, a gynhelir yn flynyddol gan yr Union Cycliste Internationale (UCI). Mae'n cynnwys rasys ar gyfer merched a dynion a sawl categori oedran ar gyfer ras ffordd a treial amser unigol, gan gynnwys y canlynol:
- Ras ffordd merched
- Treial amser merched
- Ras ffordd dynion
- Treial amser dynion
- Ras ffordd dynion odan-23
- Treial amser dynion odan-23
- Ras ffordd merched iau
- Treial amser merched iau
- Ras ffordd dynion iau
- Treial amser dynion iau
Cystadlir pob pencampwriaeth gan dimau cenedlaethol, yn hytrach na timau noddedig fel ddigwyddir yn y Tour de France. Caiff enillydd pob categori'r hawl i wisgo crys enfys wrth gystadlu mewn rasus o'r un categori yn y flwyddyn ganlynol.
Hanes
Cynhaliwyd y pencampwriaeth cyntaf ym 1921, ond yr unig ras a gystadlwyd oedd ar gyfer dynion amatur.[1] Cynhaliwyd y bencampwriaeth proffesiynol cyntaf ym mis Gorffennaf 1927 yn Nürburgring, Yr Almaen, lle gipiodd yr Eidalwr Alfredo Binda y deitl proffesiynol, a Jean Aerts o Wlad Belg y deitl amatur. Cystadlwyd pencampwriaeth y merched am y tro cyntaf ym 1958. Ni gyflwynwyd y pencampwriaethau treial amser tan 1994.
Tan 1995, roedd rasys arwahan ar gyfer reidwyr amatur a phroffesiynol, ac ym 1996, cyflwynwyd categori newydd ar gyfer reidwyr odan-23 i gymryd lle'r pencampwriaeth amatr a daeth y ras broffesiynol yn agored i bawb (ac yn ddiweddarach, reidwyr elit yn unig).
Ers 1995, cnhaliwyd y rasys tuag at ddiwedd y tymor rasio Ewropeaidd yn hwyr ym mis Medi, ar ôl y Vuelta a España fel rheol. Cyn hynnu, roedd wastad wedi ei chynnal yn ystod yr haf, yn hwyr ym mis Awst neu ar ddechrau mis Medi (heblaw 1970, pan gynhaliwyd yng nghanol y tymor yn yr haf).
Caiff y pencampwriaethau eu cynnal mewn gwlad gwahanol pob blwyddyn, gyda'r cwrs yn amrywio o un fflat sy'n ffafrio sbrintwyr, neu crws ymdonnog sy'n ffafrio dringwr neu reidiwr cyffredinol. Bydd fel arfer yn cael ei gystadlu ar gylched a chwblheir sawl cylch.
Mae pencampwriaeth y byd a dau o'r Grand Tours (y Giro d'Italia a'r Tour de France) yn ffurfio Coron Driphlyg Seiclo.
Pencampwriaethau
Blwyddyn | Gwlad | Lleoliad |
---|---|---|
1961 | Y Swistir | Berne |
1962 | Yr Eidal | Salò di Garda |
1963 | Gwlad Belg | Ronse |
1964 | Ffrainc | Sallanches |
1965 | Sbaen | San Sebastián |
1966 | Gorllewin yr Almaen | Nürburgring |
1967 | Yr Iseldiroedd | Heerlen |
1968 | Yr Eidal | Imola |
1969 | Gwlad Belg | Zolder |
1970 | Prydain Fawr | Leicester |
1971 | Y Swistir | Mendrisio |
1972 | Ffrainc | Gap |
1973 | Sbaen | Barcelona |
1974 | Canada | Montreal |
1975 | Gwlad Belg | Yvoir |
1976 | Yr Eidal | Ostuni |
1977 | Feneswela | San Cristóbal |
1978 | Gorllewin yr Almaen | Nürburgring |
1979 | Yr Iseldiroedd | Valkenburg |
1980 | Ffrainc | Sallanches |
1981 | Tsiecoslofacia | Prague |
1982 | Prydain Fawr | Goodwood |
1983 | Y Swistir | Altenrhein |
1984 | Sbaen | Barcelona |
1985 | Yr Eidal | Giavera del Montello |
1986 | UDA | Colorado Springs |
1987 | Awstria | Villach |
1988 | Gwlad Belg | Ronse |
Blwyddyn | Gwlad | Lleoliad |
---|---|---|
1989 | Ffrainc | Chambéry |
1990 | Japan | Utsunomiya |
1991 | Yr Almaen | Stuttgart |
1992 | Sbaen | Benidorm |
1993 | Norwy | Oslo |
1994 | Yr Eidal | Agrigento |
1995 | Colombia | Duitama |
1996 | Y Swistir | Lugano |
1997 | Sbaen | San Sebastián |
1998 | Yr Iseldiroedd | Valkenburg |
1999 | Yr Eidal | Verona |
2000 | Ffrainc | Plouay |
2001 | Portiwgal | Lisbon |
2002 | Gwlad Belg | Zolder a Hasselt |
2003 | Canada | Hamilton |
2004 | Yr Eidal | Verona |
2005 | Sbaen | Madrid |
2006 | Awstria | Salzburg |
2007 | Yr Almaen | Stuttgart |
2008 | Yr Eidal | Varese |
2009 | Y Swistir | Mendrisio |
2010 | Awstralia | Melbourne a Geelong |
2011 | Denmarc | Copenhagen |
2012 | Yr Iseldiroedd | Limburg |
2013 | Yr Eidal | Florence |
2014 | Sbaen | Ponferrada |
2015 | UDA | Richmond |