Pen-y-bont ar Ogwr

tref yng Nghymru
(Ailgyfeiriad o Pen–y–bont ar Ogwr)

Tref a chymuned ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr yw Pen-y-bont ar Ogwr[1] (Saesneg: Bridgend).[2] Mae ganddi oddeutu 40,000 o bobol.

Pen-y-bont ar Ogwr
Mathtref, tref farchnad Edit this on Wikidata
Poblogaeth49,404 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPen-y-bont ar Ogwr Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.5072°N 3.5784°W Edit this on Wikidata
Cod OSSS905805 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auSarah Murphy (Llafur)
AS/auChris Elmore (Llafur)
Map
Am leoedd eraill o'r enw "Penybont" neu "Pen-y-bont", gweler Pen-y-bont (gwahaniaethu).

Tan yr 20g, tref marchnad oedd hi yn bennaf. Mae hi bellach yn dref ddiwydiannol oherwydd datblygu ystadau diwydiannol ger yr M4 sydd wedi denu cwmnïau megis Sony a Ford i'r ardal. Mae Pen-y-bont yn gartref hefyd i bencadlys Heddlu De Cymru. Adeiladwyd carchar preifat (Carchar Parc Ei Mawrhydi) yn niwedd y 1990au ar safle hen ysbyty seiciatreg ar gyrion y dref uwchben pentref Coety.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Sarah Murphy (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Chris Elmore (Llafur).[4]

Lleolir Carchar y Parc - carchar masnachol i ddynion a throseddwyr ifainc, yn agos i'r dref.

Ardaloedd

Afonydd

Mae Afon Ogwr yn llifo trwy'r dref, gyda'r Nant Morfa yn ei chyfarfod ger Meysydd y Bragdy. Mae'r Afon Ewenni yn llifo ar gyrion y dref yn Nhredŵr i gyfarfod yr Ogwr ger Castell Ogwr ar ben yr aber.

Cysylltiadau ffyrdd a rheilffordd

Mae Pen-y-bont yn agos i gyffyrdd 35 a 36 traffordd yr M4, hanner ffordd rhwng dinas Abertawe a dinas Caerdydd.
Mae gan Pen-y-bont orsaf rheilffordd ar lein y Great Western, gyda gwasanaethau cyflym i ddinas Llundain ac Abertawe. Mae yna orsaf arall ym Melin Wyllt ar lein Maesteg. Mae gwasanaethau lleol yn rhedeg i Gaerdydd a Gorllewin Lloegr ar y brif lein a lein Bro Morgannwg. I'r gorllewin mae gwasanaethau lleol i Abertawe a Gorllewin Cymru. Hefyd mae gwasanaethau lleol i Faesteg. Gweithredir y gwasanaethau lleol gan Trafnidiaeth Cymru, a'r gwasanaethau cyflym gan Great Western Railway.

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Pen-y-bont ar Ogwr (pob oed) (14,912)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Pen-y-bont ar Ogwr) (1,289)
  
8.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Pen-y-bont ar Ogwr) (11688)
  
78.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Pen-y-bont ar Ogwr) (2,834)
  
42.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Adeiladau a chofadeiladau

Enwogion

Ysgolion

  • Ysgol Gyfun Brynteg
  • Ysgol Gyfun Bryntirion
  • Ysgol Gyfun Pencoed
  • Ysgol Gyfun Ynysawdre
  • Ysgol Gyfun Ogwr
  • Ysgol Gynradd Penybont
  • Ysgol Gynradd yr Hen Gastell
  • Ysgol Gynradd Bragle
  • Ysgol Gynradd Gymraeg Bro Ogwr
  • Ysgol Gynradd Tremaen
  • Ysgol Archddeon John Lewis yr Eglwys yng Nghymru
  • Ysgol Gynradd Llidiart
  • Ysgol Plant Bach Bryntirion
  • Ysgol Plant Iau Llangewydd
  • Ysgol Gynradd Brynmenyn
  • Ysgol Gynradd Ffaldau
  • Ysgol Gynradd Betws

Hamdden

Ceir Coetir Ysbryd Llynfi ar gyrion tref Maesteg sy'n ardal o goedwig ac hamdden gyda llwybrau cerdded, rhedeg a seiclo. Planwyd y coetir ar safle hen bwll glo Coegnant a Golchfa Maesteg.

Eisteddfod Genedlaethol

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol ym Mhen-y-bont ar Ogwr ym 1948. Am wybodaeth bellach gweler:

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Ogwr 1998 ym Mhencoed.

Oriel

Gefeilldrefi

Gweler hefyd

Cyfeiriadau