Roedd Pedrog (Cernyweg : Petroc[k] ; Llydaweg : Pereg ) yn sant o Gymro sy'n nawddsant Cernyw ar y cyd â Piran . Ar 4 Mehefin mae ei ŵyl. Defnyddir baner Petroc fel baner Dyfnaint (yn atgof o'r hen dywysogaeth Frythonaidd cyn cyfnod Cernyw). Mae 5 eglwys i Petroc yng Nghernyw, 8 yn Llydaw a 17 yn Nyfnaint.
Am y bardd "Pedrog", gweler John Owen Williams (Pedrog) .Baner Pedrog a Dyfnaint Cedwir ei enw yn Llanbedrog (Llŷn ), Y Ferwig Ceredigion a Llanbedrog, Sir Benfro .
Roedd Petrocus neu Petroc neu Pedrog yn sant o'r 6g a aeth o Gymru i Iwerddon i astudio. Wedi ymweld â Rhufain aeth ymlaen i sefydlu mynachdy yng Nghernyw yn Padstow. (Petrockstow - Preswyl Petroc) Tua diwedd ei oes aeth i gell unig ar Bodmin Moor. Yn ôl William of Worcester bu farw ar 4ydd Mehefin 564. Hen enw Bodmin oedd Bosvenegh (Preswyl Mynachod). Cadwodd ei greiriau yn eglwys Bodmin tan 1177, cymerwyd nhw i Abaty St Mevennus yn Llydaw tan i'r brenin Henry II mynnu eu dychwelyd.
Eglwysi Ei brif eglwysi yng Nghymru ydy Eglwys Llanbedrog, Sir Benfro ac Eglwys Sant Pedrog, Llanbedrog , Llŷn , ac eglwys yn y Ferwig , Ceredigion , (a restrwyd, fel eglwys ‘Ber[e]wick’ ym 1291).[1] [2] Ym mhentref y Ferwig, ceir hen felin, sef Felin Bedr, enw sy'n adlewyrchu enw Pedrog, y cysegrwyd yr eglwys iddo, ac mae'n bosibl ei bod yn sefyll ar safle melin ganoloesol.
Ceir 17 eglwys iddo yn Nyfnaint a 6 yng Nghernyw . Yn Llydaw ceir 8 eglwys neu bentref gan gynnwys: Sant-Pereg , Lopereg a Tregon-Poudour (Fr: Église Saint-Pétrock de Trégon ).
Rhestr Wicidata:
# Eglwys neu Gymuned Delwedd Cyfesurynnau Wicidata 1 Abaty Santes Fair a Sant Pedrog 50°28′09″N 4°42′56″W / 50.4692°N 4.7155°W / 50.4692; -4.7155 Q4664083 2 Church of Saint John and Saint Petroc 50°12′43″N 5°05′34″W / 50.211826°N 5.092723°W / 50.211826; -5.092723 Q26452926 3 Church of St Keria 50°39′12″N 4°26′41″W / 50.653426°N 4.444828°W / 50.653426; -4.444828 Q26453729 4 Church of St Petrock 50°48′15″N 4°18′14″W / 50.804178°N 4.304001°W / 50.804178; -4.304001 Q26458721 5 Church of St Petrox, Dartmouth 50°20′32″N 3°33′58″W / 50.3422°N 3.56608°W / 50.3422; -3.56608 Q17527165 6 Eglwys Sant Pedrog 52°06′53″N 4°39′16″W / 52.114615°N 4.654494°W / 52.114615; -4.654494 Q24296705 7 Eglwys Sant Pedrog Leiaf 50°30′43″N 4°56′15″W / 50.512°N 4.93752°W / 50.512; -4.93752 Q17529422 8 Eglwys Sant Pedrog a Sant Barnabas 50°42′44″N 3°23′33″W / 50.7123°N 3.39263°W / 50.7123; -3.39263 Q17547352 9 Eglwys Sant Pedrog, Clannaborough 50°48′32″N 3°46′47″W / 50.8088°N 3.77962°W / 50.8088; -3.77962 Q17548138 10 Eglwys Sant Pedrog, Exeter 50°43′22″N 3°31′56″W / 50.7227°N 3.53215°W / 50.7227; -3.53215 Q7595386 11 Eglwys Sant Pedrog, Harford 50°25′09″N 3°55′05″W / 50.4193°N 3.9181°W / 50.4193; -3.9181 Q17527002 12 Eglwys Sant Pedrog, Inwardleigh 50°46′36″N 4°02′37″W / 50.7767°N 4.04363°W / 50.7767; -4.04363 Q17536844 13 Eglwys Sant Pedrog, Lydford 50°38′36″N 4°06′36″W / 50.6432°N 4.11°W / 50.6432; -4.11 Q17537648 14 Eglwys Sant Pedrog, Padstow 50°32′28″N 4°56′34″W / 50.5412°N 4.94291°W / 50.5412; -4.94291 Q17529476 15 Eglwys Sant Pedrog, Pwllheli 52°51′20″N 4°28′57″W / 52.8555°N 4.48256°W / 52.8555; -4.48256 Q17744324 16 Eglwys Sant Pedrog, South Brent 50°25′40″N 3°50′13″W / 50.4277°N 3.83696°W / 50.4277; -3.83696 Q17526995 17 Eglwys Sant Pedrog, Torridge 50°53′16″N 4°15′36″W / 50.8877°N 4.26006°W / 50.8877; -4.26006 Q17536472 18 Eglwys Sant Pedrog, Torridge 50°51′46″N 4°06′51″W / 50.8628°N 4.11406°W / 50.8628; -4.11406 Q17536792 19 Eglwys Sant Pedrog, Trevalga 50°40′42″N 4°43′02″W / 50.6782°N 4.71736°W / 50.6782; -4.71736 Q17533478 20 Eglwys Sant Pedrog, West Anstey 51°02′07″N 3°38′18″W / 51.0353°N 3.63845°W / 51.0353; -3.63845 Q17532652 21 Eglwys Sant Petrog, Bodmin 50°28′17″N 4°43′00″W / 50.4714°N 4.7168°W / 50.4714; -4.7168 Q15201909 22 Elwys Sant Pedrog, Timberscombe 51°10′05″N 3°29′41″W / 51.168184°N 3.494716°W / 51.168184; -3.494716 Q5117717 23 Llanbedrog, Sir Benfro 51°38′24″N 4°56′03″W / 51.64012694444445°N 4.934133055555556°W / 51.64012694444445; -4.934133055555556 Q20593364 24 Lopereg 48°16′37″N 4°02′53″W / 48.276944°N 4.048056°W / 48.276944; -4.048056 Q475765 25 Mynachdy Dartmouth 50°20′32″N 3°33′58″W / 50.3423°N 3.56609°W / 50.3423; -3.56609 Q5225695 26 Sant-Pereg 47°40′09″N 2°06′29″W / 47.669166666667°N 2.1080555555556°W / 47.669166666667; -2.1080555555556 Q128899 27 St Petroc's Church, Egloshayle 50°30′46″N 4°49′16″W / 50.5128°N 4.82112°W / 50.5128; -4.82112 Q17529267 28 St Petrock's Church 51°00′39″N 3°24′57″W / 51.010828°N 3.415952°W / 51.010828; -3.415952 Q26611180
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.
Llyfryddiaeth Carter, Eileen. (2001). In the Shadow of St Piran Doble, G. H. (1965). The Saints of Cornwall . Dean & Chapter of Truro. Orme, N. (1991) Unity and Variety: A History of the Church in Devon and Cornwall ISBN 0859893553 Orme, N. (1992) Nicholas Roscarrock's Lives of the Saints ISBN 0901853356 Orme, N. (1996) English Church Dedications: With a Survey of Cornwall and Devon, Gwasg Prifysgol Exeter ISBN 0859895165 Orme, N. (2000) The Saints of Cornwall, Gwasg Prifysgol Rhydychen ISBN 0198207654
Cyfeiriadau