Paentio Iseldiraidd cynnar

Gweithiau paentwyr a oedd yn weithgar yn yr Iseldiroedd yn y Dadeni Gogleddol yn ystod y 15g a'r 16g yw'r paentio Iseldiroedd cynnar. Deuai'r gwaith yn bennaf o ddinasoedd newydd megis Bruges a Ghent. Dechreuodd tua chyfnod Jan van Eyck, a oedd yn hyrwyddo paentio "Apelles newydd" Karel van Mander yng Ngogledd Ewrop ar droad yr 17g a gorffenodd gyda Gerard David tua 1520.

Y Portread Arnolfini gan Jan van Eyck, Yr Oriel Genedlaethol, Llundain.

Mae'r cyfnod yn cyfateb i'r Dadeni Eidalaidd cynnar, ond fe'i ystyrir yn ddiwylliant celfyddydol annibynnol.

Rhestr paentwyr

  • Claus Sluter cerflunydd o gryn dylanwad.
  • Melchior Broederlam (c.1350-1409)
  • Jean Malouel (m. 1415)
  • Limbourg Brothers (1385–1416)
  • Hubert van Eyck (c.1366–1426)
  • Robert Campin, a alwyd hefyd yn "Feistr Flemalle" (1378–1444)
  • Henri Bellechose (m. ca. 1445)
  • Jan van Eyck (c.1385–1441)
  • Dirk Bouts (c. 1400/1415-1475)
  • Rogier van der Weyden (c.1399/1400-1464)
  • Petrus Christus (c.1410/1420-1475/1476)
  • Joos van Wassenhove a alwyd hefyd yn Justus o Ghent (c.1410-1480), un o'r ychydig baentwyr o'r gogledd i weithio yn yr Eidal.
  • Jacques Daret (c.1404-1470)
  • Barthélemy d'Eyck (c.1420-1470), gweithiodd yn ne Ffrainc.
  • Simon Marmion (c.1425-1489)
  • Hans Memling (c.1430-1494), ganwyd yn yr Almaen.
  • Hugo van der Goes (1440–1482)
  • Fernando Gallego (1443-1507), gweithiodd yn Salamanca, Sbaen; unodd draddodiadau Sbaen gyda dylanwad Van der Weyden a Bouts i greu arddull newydd a ellir ei enwi'n Hispano-Flemaidd.

[1]

  • Hieronymus Bosch (c.1450 - 1516)
  • Gerard David (c.1460-1523)
  • Jan Joest van Calcar (c.1450 - 1519)
  • Albert van Ouwater (1444–1515)
  • Michael Sittow, a anwyd yn Estonia, ac a weithiodd yn Fflandyrs a Sbaen
  • Quentin Matsys
  • Juan de Flandes (c.1460-c.1519) - a anwyd yn Fflandyrs, ac a weithiodd yn Sbaen
  • Geertgen tot Sint Jans (c.1460–1490)
  • Joachim Patinir, y paentiwr tirluniau cyntaf
  • Jean Hey, a alwyd hefyd yn Master of Moulins (paentiodd rhwng 1480-1500)
  • Master of the Legend of Saint Lucy (1480–1510)
  • Master of the Embroidered Foliage (paentiodd rhwng 1480-1510)
Eginyn erthygl sydd uchod am gelf. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Cyfeiriadau