Pêl-droed yng Nghymru 2015-16
Tymor 2015-16 oedd y 131ain tymor i dîm cenedlaethol Cymru, 24ain tymor yn hanes Uwch Gynghrair Cymru a'r 129fed tymor o Gwpan Cymru.
Pêl-droed yng Nghymru 2015-16 | |||
---|---|---|---|
Uwch Gynghrair Cymru | Y Seintiau Newydd | ||
Cwpan Cymru | Y Seintiau Newydd | ||
Cwpan Word | Y Seintiau Newydd | ||
|
Llwyddodd Cymru i gyrraedd rownd gynderfynol Pencampwriaeth UEFA Euro 2016 cyn colli yn erbyn Portiwgal a llwyddodd Joe Allen ac Aaron Ramsey i ennill eu lle yn nhîm y bencampwriaeth gafodd ei ddewis gan UEFA[1].
Cwblhaodd Y Seintiau Newydd y trebl ddomestig wrth ennill y bencampwriaeth am y pumed tymor yn olynol yn ogystal â chodi Cwpan Cymru a Chwpan Word.
Timau Cenedlaethol Cymru
Dynion
Gyda Chris Coleman wrth y llyw, daeth Cymru â'u hymgyrch i gyrraedd Euro 2016 yn Ffrainc i ben gan orffen yn ail yn y grŵp a sicrhau eu lle yn rowndiau terfynol Pencampwriaethau Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes[2].Cymru oedd y pedwerydd detholyn yng Ngrŵp B[3] gyda Bosnia a Hercegovina, Gwlad Belg, Israel, Cyprus ac Andorra hefyd yn y grŵp[4].
Ym mis Gorffennaf 2015 llwyddodd Cymru i sicrhau eu lle ymysg y 10 uchaf ar restr detholion FIFA am y tro cyntaf yn eu hanes[5] ac ym mis Hydref 2015, cyrhaeddodd Cymru eu safle uchaf erioed wrth gyrraedd rhif wyth ar y rhestr detholion[6].
Capiau Cyntaf
Casglodd Tom Lawrence[7], Adam Henley[8] ac Owain Fôn Williams[8] eu capiau cyntaf dros Gymru yn ystod y tymor.
Canlyniadau
Euro 2016 Grŵp B Gêm 9 | 10 Hydref 2015 |
Bosnia a Hercegovina ![]() | 2 – 0 | ![]() |
---|---|---|
Djurić ![]() Ibišević ![]() | (Saesneg) Manylion |
Gêm Gyfeillgar | 13 Tachwedd 2015 |
Cymru ![]() | 2 – 3 | ![]() |
---|---|---|
Ledley ![]() Huws ![]() | (Saesneg) Manylion | Dost ![]() Robben ![]() |
Grŵp Rhagbrofol B yng ngemau rhagbrofol ar gyfer Euro 2016 yn Ffrainc
Tîm | Ch | E | Cyf | C | + | - | GG | Pt | |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
1. | ![]() | 10 | 7 | 2 | 1 | 24 | 5 | +19 | 23 |
2. | ![]() | 10 | 6 | 3 | 1 | 11 | 4 | +7 | 21 |
3. | ![]() | 10 | 5 | 2 | 3 | 17 | 12 | +5 | 17 |
4. | ![]() | 10 | 4 | 1 | 5 | 16 | 14 | +2 | 13 |
5. | ![]() | 10 | 4 | 0 | 6 | 16 | 17 | -1 | 12 |
6. | ![]() | 10 | 0 | 0 | 10 | 4 | 36 | -32 | 0 |
Merched
Gyda Jayne Ludlow wrth y llyw, dechreuodd Cymru eu hymgyrch i gyrraedd Euro 2017 yn Yr Iseldiroedd. Cymru yw'r trydydd detholyn yng Ngrŵp 8[9] gyda Norwy, Awstria, Israel a Casachstan hefyd yn y grŵp.
Canlyniadau
Euro 2017 Grŵp 8 Gêm 5 | 12 Ebrill 2016 |
Casachstan ![]() | 0 – 4 | ![]() |
---|---|---|
Green ![]() Ward ![]() |
Clybiau Cymru yn Ewrop
Yng Nghynghrair y Pencampwyr, ymddangosodd Y Seintiau Newydd yn Ewrop am y 16ed tymor o'r bron. Ar ôl trechu B36 Tórshavn o Ynysoedd Faroe, roedd angen amser ychwanegol ar Videoton o Hwngari i guro'r tîm o Groesosowallt yn yr ail rownd rhagbrofol.
Yng Nghyngrair Europa roedd Y Drenewydd yn cynrychioli Cymru yn Ewrop am y tro cyntaf ers ymddangos yng Nghwpan UEFA ym 1996-97[10] a chafwyd buddugoliaeth wych yn erbyn Valletta[11] yn y rownd rhagbrofol gyntaf cyn colli yn erbyn FC København o Denmarc yn yr ail rownd. Roedd Airbus UK yn ymddangos yn y gystadleuaeth am y drydedd flwyddyn o'r bron[10] ac er sicrhau gêm gyfartal yn Croatia yn erbyn Lokomotiva Zagreb, roedd y golled yn y cymal cyntaf yn Nantporth, Bangor yn ormod o fynydd i'w oresgyn[11]. Ac roedd gôl yn yr eiliadau olaf o'r ail gymal yn erbyn Differdange 03 yn ormod i Y Bala[11][12], oedd yn ymddangos yn Ewrop am yr ail dro[10].
Cynghrair Y Pencampwyr
Rownd Rhagbrofol Gyntaf
7 Gorffennaf 2015 19:00 |
Y Seintiau Newydd ![]() | 4-1 | ![]() |
---|---|---|
Wilde ![]() Williams ![]() | Ł Cieślewicz ![]() |
Y Seintiau Newydd yn ennill 6-2 dros y ddau gymal
Ail Rownd Rhagbrofol
Videoton yn ennill 2-1 dros ddau gymal
Cynghrair Europa
Rownd Rhagbrofol Gyntaf
Differdange 03 yn ennill 4-3 dros y ddau gymal
2 Gorffennaf 2015 18:45 |
Airbus UK ![]() | 1-3 | ![]() |
---|---|---|
Riley ![]() | uchafbwyntiau | Šovšić ![]() Marić ![]() Kolar ![]() |
9 Gorffennaf 2015 18:30 |
Lokomotiva Zagreb ![]() | 2-2 | ![]() |
---|---|---|
Fiolić ![]() ![]() | Budrys ![]() A. Jones ![]() |
Lokomotiva Zagreb yn ennill 5-3 dros y ddau gymal
Y Drenewydd yn ennill 4-2 dros y ddau gymal
Ail Rownd Rhagbrofol
FC København yn ennill 5-1 dros ddau gymal
Uwch Gynghrair Cymru
Cychwynodd tymor Uwch Gynghrair Cymru ar 22 Awst 2015 gyda Llandudno a Hwlffordd yn cymryd eu lle ymysg y 12 Disglair ar ôl sicrhau dyrchafiad o Gynghrair Undebol Huws Gray a Chynghrair Cymru'r De. Cwympodd Prestatyn a Derwyddon Cefn i Gynghrair Undebol Huws Gray ar ôl gorffen ar waelod tabl 2014-15. Llwyddodd Y Seintiau Newydd i gipio'r Bencampwriaeth am y degfed tro yn eu hanes gyda'r Bala yn sicrhau eu lle yng Nghynghrair Europa ar gyfer 2016-17.
Saf | Tîm | Ch | E | Cyf | Coll | + | - | GG | Pt | Cyrraedd Ewrop neu ddisgyn |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
1 | Y Seintiau Newydd (P) | 32 | 18 | 10 | 4 | 72 | 24 | +48 | 64 | Rownd rhagbrofol gyntaf Cynghrair Pencampwyr Uefa 2016-17 |
2 | Y Bala | 32 | 15 | 12 | 5 | 48 | 27 | +21 | 57 | Rownd rhagbrofol gyntaf Cynghrair Europa Uefa 2016-17 |
3 | Llandudno | 32 | 15 | 7 | 10 | 53 | 46 | +7 | 52 | Gemau Ail Gyfle Cynghrair Europa |
4 | Cei Connah | 32 | 15 | 3 | 14 | 50 | 42 | +8 | 48 | |
5 | Y Drenewydd | 32 | 11 | 9 | 12 | 46 | 54 | −8 | 42 | |
6 | Airbus UK | 32 | 12 | 6 | 14 | 46 | 55 | −9 | 42 | |
7 | Caerfyrddin | 32 | 14 | 5 | 13 | 45 | 52 | −7 | 47 | Gemau Ail Gyfle Cynghrair Europa |
8 | Aberystwyth | 32 | 13 | 7 | 12 | 51 | 47 | +4 | 46 | |
9 | Bangor | 32 | 13 | 6 | 13 | 49 | 52 | −3 | 45 | |
10 | Port Talbot (C) | 32 | 10 | 9 | 13 | 39 | 56 | −17 | 39 | Cwympo i Gynghrair Cymru (Y De)1 |
11 | Y Rhyl | 32 | 5 | 12 | 15 | 36 | 50 | −14 | 27 | |
12 | Hwlffordd (C) | 32 | 5 | 6 | 21 | 39 | 57 | −18 | 21 | Cwympo i Gynghrair Cymru (Y De) |
Source: http://s4c.cymru/sgorio Sgorio
Rheolau ar gyfer dethol safleoedd: 1) pwyntiau; 2) gwahaniaeth goliau; 3) goliau o blaid.
1 Port Talbot yn colli eu lle yn Uwch Gynghrair Cymru am fethu sicrhau trwydded ddomestig.
(P) = Pencampwyr; (C) = Cwympo; (D) = Dyrchafiad; (Y) = Ymadael o'r gystadleuaeth; (G) = Ennill gemau ail gyfle; (A) = Camu ymlaen i'r rownd nesaf.
Gemau Ail Gyfle Cynghrair Europa
Gan fod Y Seintiau Newydd wedi sicrhau eu lle yng Nghynghrair y Pencampwyr yn ogystal ag ennill Cwpan Cymru llwyddodd Llandudno, orffennodd yn drydydd, i sicrhau eu lle yng Nghynghrair Europa ac osgoi'r gemau ail gyfle. O'r herwydd, cyfarfu Cei Connah, orffennodd yn bedwerydd, gyda Caerfyrddin oedd yn seithfed tra bo Y Drenewydd, oedd yn bumed, yn wynebu Airbus UK orffennodd yn chweched.
Roedd buddugoliaeth Cei Connah yn y rownd derfynol yn sicrhau eu lle yng Nghynghrair Europa ar gyfer tymor 2016-17.
- Rownd Gynderfynol
- Rownd Derfynol
Cwpan Cymru
Cafwyd 199 o dimau yng Nghwpan Cymru 2015-16[13].
Rownd yr Wyth Olaf | Rownd Gynderfynol | Rownd Derfynol | ||||||||
5 Mawrth, Parc Celtic | ||||||||||
Cwmbrân Celtic | 1 | |||||||||
2 Ebrill Parc Latham | ||||||||||
Port Talbot | 2 | |||||||||
Port Talbot | 0 | |||||||||
5 Mawrth Y Maes Awyr | ||||||||||
Airbus UK | 7 | |||||||||
Airbus UK | 3 | |||||||||
2 Mai, Parc Latham | ||||||||||
Y Bala | 0 | |||||||||
Y Seintiau Newydd | 2 | |||||||||
5 Mawrth, Neuadd y Parc | ||||||||||
Airbus UK | 0 | |||||||||
Y Seintiau Newydd | 1 | |||||||||
2 Ebrill Parc Latham | ||||||||||
Y Drenewydd | 2 | |||||||||
Y Seintiau Newydd | 5 | |||||||||
5 Mawrth, Cyncoed | ||||||||||
Cei Connah | 0 | |||||||||
Met Caerdydd | 0 | |||||||||
Cei Connah | 2 | |||||||||
Rownd Derfynol
Cwpan Word
Llwyddodd Dinbych o gynghrair Huws Gray i drechu tri clwb o Uwch Gynghrair Cymru ar y ffordd i'r rownd derfynol. Cafwyd buddugoliaethau yn erbyn Y Rhyl, Airbus UK a Cei Connah cyn iddynt wynebu Y Seintiau Newydd yn y rownd derfynol ar faes Llandudno.
Rownd yr Wyth Olaf | Rownd Gynderfynol | Rownd Derfynol | ||||||||
20 Hydref, Neuadd y Parc | ||||||||||
Y Seintiau Newydd | 3 | |||||||||
17 Tachwedd, Neuadd y Parc | ||||||||||
Hwlffordd | 1 | |||||||||
Y Seintiau Newydd | 4 | |||||||||
20 Hydref, Parc Waun Dew | ||||||||||
Caerfyrddin | 1 | |||||||||
Caerfyrddin | 3 | |||||||||
23 Ionawr, Parc Maes Du | ||||||||||
Port Talbot | 1 | |||||||||
Y Seintiau Newydd | 2 | |||||||||
20 Hydref, Central Park | ||||||||||
Dinbych | 0 | |||||||||
Dinbych (w.a.y.) | 2 | |||||||||
18 Tachwedd, Central Park | ||||||||||
Airbus UK | 1 | |||||||||
Dinbych | 1 | |||||||||
20 Hydref, Glannau Dyfrdwy | ||||||||||
Cei Connah | 0 | |||||||||
Cei Connah (w.a.y.) | 5 | |||||||||
Caernarfon | 3 | |||||||||
Rownd Derfynol
Cwpan FA Lloegr
Er eu bod yn glybiau Cymreig mae Abertawe, C.P.D. Dinas Caerdydd, Casnewydd, Wrecsam, Bae Colwyn a Merthyr yn cystadlu yng Nghwpan FA Lloegr gan eu bod yn chwarae ym mhyramid bêl-droed Lloegr yn hytrach na phyramid bêl-droed Cymru.
Trydedd Rownd
Ail Rownd
Rownd Gyntaf
8 Tachwedd 2015 14:00 |
Brackley Town | 2–2 | Casnewydd |
---|---|---|
Graham ![]() McDonald ![]() | John-Lewis ![]() Bennett ![]() |
17 Tachwedd 2015 19:45 |
Casnewydd | 4–1 | Brackley Town |
---|---|---|
John-Lewis ![]() Klukowski ![]() Rodman ![]() Hawtin ![]() | Hawtin ![]() |
Pedwaredd Rownd Rhagbrofol
Ail Rownd Rhagbrofol
Rownd Rhagbrofol Gyntaf
Marwolaethau
- 5 Awst 2015: Tony Millington, 72, cyn chwaraewr West Bromwich Albion, Crystal Palace, Peterborough United, Abertawe a Chymru[14]
- 12 Awst 2015: Chris Marustik, 54, cyn chwaraewr Abertawe, Caerdydd, Casnewydd and a Chymru[15]
- 4 Ionawr 2016: John Roberts, 69, cyn chwaraewr Abertawe, Northampton Town, Arsenal, Birmingham City, Wrecsam, Hull City a Chymru[16]
Cyfeiriadau
Wedi'i flaenori gan: Tymor 2014-15 | Pêl-droed yng Nghymru Tymor 2015-16 | Wedi'i olynu gan: Tymor 2016-17 |