Nip/Tuck

Cyfres ddrama deledu Americanaidd a grewyd gan Ryan Murphy ac a ddarlledwyd ar FX Networks ydy Nip/Tuck. Lleolir y ddrama yng nghanolfan feddygol triniaeth gosmetig McNamara/Troy, ac edrydd hanesion proffesiynol a phersonol perchnogion y ganolfan sef Dr. Sean McNamara a Dr. Christian Troy (a actir gan Dylan Walsh a Julian McMahon). Lleolwyd pedair cyfres cyntaf y sioe yn Miami, ond ad-leolwyd y cymeriadau i Los Angeles o'r bumed gyfres ymlaen.

Nip/Tuck

Logo Nip/Tuck
GenreDrama feddygol
SerennuDylan Walsh
Julian McMahon
John Hensley
Joely Richardson
Valerie Cruz
Roma Maffia
Bruno Campos
Kelly Carlson
Jessalyn Gilsig
Gwlad/gwladwriaethYr Unol Daleithiau
Iaith/ieithoeddSaesneg
Nifer cyfresi6
Nifer penodau83
Cynhyrchiad
Amser rhedeg42 - 65 munud (er bod rhaglenni agoriadol cyfresi newydd yn hwy)
Darllediad
Sianel wreiddiolFX Networks
Darllediad gwreiddiol22 Gorffennaf, 2003 – Presennol
Dolenni allanol
Gwefan swyddogol

Mae'r sioe yn adnabyddus am ei phortread graffig o rhyw, trais a llawdriniaethau meddygol.[1]

Cyfeiriadau

Eginyn erthygl sydd uchod am deledu. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato