Mwsogl
Mwsoglau | |
---|---|
![]() | |
Migwyn (Sphagnum) | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Rhaniad: | Bryophyta |
Dosbarthiadau[1] | |
|
Planhigion anflodeuol bychan o'r rhaniad Bryophyta yw mwsoglau. Mae tua 12,000 o rywogaethau yn y byd.[1] Fel arfer maent yn tyfu ar ffurf matiau neu glympiau mewn lleoedd llaith neu gysgodol. Mae mwsoglau'n blanhigion anfasgwlaidd heb feinwe sylem a ffloem i gludo dŵr. Maent yn atgenhedlu â sborau yn hytrach na hadau ond mae ganddynt ddail syml, un gell o ran trwch ar fonyn nad yw'n arbennig o dda am dynnu dŵr a maeth.
Fel rheol, maent yn 0.2–10 cm (0.1–3.9 modf.) o daldra, ond mae rhai rhywogaethau'n llawer mwy na hyn: Dawsonia, yw'r math talaf, a gall dyfu i hyd at 50 cm (20 modf.) o uchter.
Defnydd gan y werin
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/82/Coedydd_Aber_National_Nature_Reserve_%28valley_near_Aber_Falls%29_and_SSSI%2C_Gwynedd%2C_Wales._14.jpg/290px-Coedydd_Aber_National_Nature_Reserve_%28valley_near_Aber_Falls%29_and_SSSI%2C_Gwynedd%2C_Wales._14.jpg)
- Sebon Teiliwr: "Bu Mrs Heulwen Roberts o Faentwrog yn son wrthym'[2] 'am fwsogl sy’n tyfu ar lannau pyllau a alwai’n “sebon teiliwr. Cofiai deilwriaid yn ei gasglu yn ystod ei ieuenctid i smwddio i mewn i ddillad i'w startsio. Ni wyddom at ba fwsogl y cyfeiriai, os mwsogl o gwbl ond fe gafwyd, ar ôl rhywfaint o ymchwil, ei bod yn bosibl mai cen cerrig oedd y planhigyn, e.e. Ramalina calicaris."
- Mwsoglu - yr arferiad o hel a defnyddio mwsogl gan y werin bobl.
- Llyffethair o fwsogl: "Glywoch chi am neud rhaff o'r sidan bengoch [Polytrichum commune]? Mi ddangosodd 'newyrth i fi dros ugain mlynedd yn ôl sut i neud llyffethair ohono - peth handi iawn i allu i neud ar y mynydd. Ar ôl rhyddhau's pishys o sidan bengoch o wrth eu gilydd a'u neud yn bentwr, mi fachodd nhw a bys un llaw trwy'r llaw arall (oedd ar ffurf arwydd 'ok' dros y twmpath). Wrth eu troi a'u plethu, roedd y gorden a nawd yn cael ei dala yng nghanol y llaw oedd yn troi, ar siap malwen (h.y. yn cyfyngu ar ei gallu i droi yn rhydd). I fennu, mi ddyblodd y rhaff (a thrwy hynny wrthwneud grym y troi wrth gwrs) a wedyn agor y bleth er mwyn rhoi un pen trwy blethau'r llall. Wrth feddwl, dim llyffethair sensu stricto oedd e, ond cylch - torch oedd ei enw amdano. Mi'i rhoid rownd gwddwg y ddafad er mwyn rhoi ei throed drwyddi."[3] (Carchar yw'r term am llyffethair yn Arfon)
Cyfeiriadau
🔥 Top keywords: XXX: Return of Xander CageHafanSiôn Daniel YoungCarles PuigdemontArbennig:SearchArwel GruffyddSwper OlafWicipedia:CategorïauSpotifyRun Hide FightYr Ail Ryfel BydArbennig:RecentChangesSex TapeMaid in SwedenRyland TeifiWicipedia:Cysylltwch â niL.E.T.H.A.L. Ladies: Return to Savage BeachWicipedia:Gwadiad CyffredinolLlyn CraigypistyllPorn to Be FreeCymraegCymruNick ServiniWicipedia:Porth y GymunedWicipedia:CymorthWicipedia:Y CaffiWikipediaCapel CelynWicipedia:Ynglŷn â WicipediaWicipedia CymraegSpecial:SearchJess DaviesEmanuelle in AmericaEmmanuelle 4Xxx: State of The UnionAfter Porn Ends 2Caligula's SpawnCyfathrach rywiolIndia