Mwdra

Safle neu ystym corfforol yw mudra, neu mwdra (Sansgrit: मुद्रा, IAST: mudrā), a ddefnyddir weithiau mewn defodau Hindŵaidd, Jainiaidd a Bwdhaidd neu o fewn asanas mewn ioga.

Mwdra
Enghraifft o'r canlynolcysyniad crefyddol Edit this on Wikidata
Mathasana, hand gesture Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Yn ogystal â bod yn ystumiau ysbrydol a ddefnyddir yn eiconograffeg ac ymarfer ysbrydol crefyddau India, mae gan fwdras ystyr mewn sawl dawns Indiaidd, ac o fewn ioga. Mae ystod y mwdras a ddefnyddir ym mhob maes (a chrefydd) yn wahanol, ond gyda rhywfaint o orgyffwrdd. Defnyddir llawer o'r mwdras Bwdhaidd y tu allan i Dde Asia, ac maent wedi datblygu gwahanol amrywiadau lleol mewn mannau eraill.

Mewn ioga hatha, defnyddir mwdras ar y cyd â pranayama (ymarferion anadlu iogig), yn gyffredinol tra mewn ystum eistedd, i ysgogi gwahanol rannau o'r corff sy'n ymwneud ag anadlu ac i effeithio ar lif prana. Mae hefyd yn gysylltiedig â bindu, bodhicitta, amrita, neu ymwybyddiaeth yn y corff. Yn wahanol i fwdras tantrig hŷn, mae mwdras ioga hatha yn weithredoedd mewnol fel arfer, sy'n cynnwys llawr y pelfis, y diaffram, y gwddf, y llygaid, y tafod, yr anws, organau cenhedlu, abdomen, a rhannau eraill o'r corff. Enghreifftiau o'r amrywiaeth hwn o fwdras yw Mula Bandha, Mahamudra, Viparita Karani, Khecarī mudrā, a Vajroli mudra. Cynyddodd y rhain mewn nifer o 3 yn yr Amritasiddhi, i 25 yn y Gheranda Samhita, gyda set glasurol o ddeg yn codi yn yr Ioga Hatha Pradipika.

Cerflun efydd llinach Chola o'r duw Hindŵaidd Nataraja (Shiva) o'r 10g yn gwneud mwdras amrywiol

Etymology ac enwau

Mae gwreiddiau Sansgrit i'r gair mudrā. Yn ôl yr ysgolhaig Syr Monier Monier-Williams mae'n golygu "sêl" neu "unrhyw offeryn arall a ddefnyddir ar gyfer selio".[1]

Eiconograffeg

Defnyddir Mwdra yn eiconograffeg celfyddyd Hindŵaidd a Bwdhaidd is-gyfandir India ac fe'i disgrifir yn yr ysgrythurau, fel y Nātyaśāstra, sy'n rhestru 24 mwdras asaṁyuta ("gwahanedig", sy'n golygu "un llaw") a 13 saṁyuta ("uniad", sy'n golygu "dwy-law"). Mae safleoedd mwdra fel arfer yn cael eu ffurfio gan y llaw a'r bysedd. Ynghyd ag âsanas ("osgo eistedd"), cânt eu creu'n dawel o fewn myfyrdod ac yn ddeinamig mewn Nāṭya Hindŵaidd

Mae eiconograffeg Hindŵaidd a Bwdhaidd yn rhannu rhai mwdras. Mewn rhai rhanbarthau, er enghraifft yn Laos a Gwlad Thai, mae'r rhain yn wahanol ond yn rhannu confensiynau eiconograffig cysylltiedig.

Bwdhaeth

Gall delwedd Bwdha gael un o sawl mwdras cyffredin, wedi'i gyfuno â gwahanol asanas. Mae'r prif fwdras a ddefnyddir yn cynrychioli eiliadau penodol ym mywyd Gautama Buddha, ac maent yn ddarluniau llaw-fer o'r rhain.

Abaya Mudrā

Mae "ystym y di-ofn" Abhayamudra[2] yn cynrychioli amddiffyniad, heddwch, caredigrwydd a chwalu ofn. Ym Mwdhaeth Theravada fe'i gwneir fel arfer wrth sefyll gyda'r fraich dde wedi'i phlygu a'i chodi i uchder yr ysgwydd, clederau'r dwylo'n wynebu ymlaen, y bysedd ar gau, gan bwyntio'n unionsyth, a'r llaw chwith yn gorffwys wrth yr ochr. Yng Ngwlad Thai a Laos, mae'r mwdra hwn yn gysylltiedig â'r Bwdha cerdded, a ddangosir yn aml â'r ddwy law yn gwneud mwdra abhaya dwbl sy'n unffurf.

Mae'n debyg bod y mwdra hwn wedi'i ddefnyddio cyn dyfodiad Bwdhaeth fel symbol o fwriad da yn cynnig cyfeillgarwch wrth fynd at ddieithriaid. Yng nghelfyddyd Gandharan, fe'i gwelir wrth bregethu. Fe'i defnyddiwyd hefyd yn Tsieina yn ystod cyfnodau Wei a Sui yn y 4g a'r 7g.

Defnyddiwyd yr ystum hwn gan y Bwdha pan ymosododd eliffant arno, gan ddarostwng yr anifail. Darluniwyd hyn mewn sawl ffresgo a thestun.[3]

Dawnsfeydd glasurol Indiaidd a dawnsfeydd Thai

Mewn dawnsfeydd clasurol Indiaidd a dawnsfeydd Thai,[4] defnyddir y term "Hasta Mwdra". Mae'r Natya Shastra'n disgrifio 24 mwdras, tra bod yr Abhinaya Darpana o Nandikeshvara yn rhoi 28.[5] Yn eu holl fathau o ddawns glasurol Indiaidd, mae'r mwdras yn debyg i'w gilydd, er bod yr enwau a'r defnyddiau'n amrywio. Ceir 28 (neu 32) o fwdras a'u gwreiddiau yn Bharatanatyam, 24 yn Kathakali ac 20 yn Odissi. Mae'r mwdras hyn yn cael eu cyfuno mewn gwahanol ffyrdd, fel un llaw, dwy law, symudiadau braich, mynegiant corff ac wyneb. Yn Kathakali, sydd â'r nifer fwyaf o gyfuniadau, mae'r eirfa yn adio i tua 900. Mae mwdras Sanyukta yn defnyddio'r ddwy law ac mae mwdras asanyukta yn defnyddio un llaw.[6]

Ioga

Mae'r gwahanol fwdras ioga yn cynnwys gwahanol rannau o'r corff a gweithdrefnau amrywiol cyfatebol, yn gyffredinol i gadw egni hanfodol prana . Llawysgrif ddarluniadol o'r Joga Pradipika, 1830

Y ffynonellau clasurol ar gyfer yr iogi yw'r Gheranda Samhita a'r Ioga Hatha Pradipika.[7] Mae'r Ioga Hatha Pradipika'n nodi pwysigrwydd mwdras mewn ymarfer yoga: "Felly dylai'r dduwies [Kundalini] sy'n cysgu wrth fynedfa drws Brahma gael ei chyffroi'n gyson gyda phob ymdrech, trwy berfformio mwdra'n drylwyr." Yn yr 20g a'r 21g, parhaodd yr athro ioga Satyananda Saraswati, sylfaenydd Ysgol Ioga Bihar, i bwysleisio pwysigrwydd mwdras yn ei destun cyfarwyddiadol Asana, Pranayama, Mudrā, Bandha.[7]

Mae'r mwdras ioga yn amrywiol yn y rhannau o'r corff dan sylw ac yn y gweithdrefnau gofynnol, fel yn Mula Bandha,[8] Mahamwdra,[8] Viparita Karani,[8] Mwdra Khecarī ,[8] a Mwdra Vajroli.[8]

Darllen pellach

Cyfeiriadau