Muzeum Miniaturowej Sztuki Profesjonalnej Henryk Jan Dominiak yn Tychy
Amgueddfa yw Muzeum Miniaturowej Sztuki Profesjonalnej Henryk Jan Dominiak yn Tychy sy'n casglu ac yn arbenigo mewn celf fodern o Wlad Pwyl, Sweden, Hwngari, Wcráin, a Brasil.[1][2]
Enghraifft o'r canlynol | amgueddfa, contemporary art museum, miniatures museum |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 16 Ebrill 2013 |
Rhanbarth | Tychy, Silesian Voivodeship |
Gwefan | http://www.muzeumminiaturowejsztukiprofesjonalnejhenrykjandominiak.eu, https://muzeumminiaturowejsztukiprofesjonalnejhenrykjandominiak.eu/wp/usa/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Sefydlwyd yr amgueddfa gan Henryk Jan Dominiak yn 2013; mae'r Amgueddfa yn cael ei goruchwylio o ddydd i ddydd gan Weinyddiaeth Diwylliant a Threftadaeth Genedlaethol Gwlad Pwyl.[3] Lleolir y sefydliad ar stryd ulica Żwakowska 8/66, Tychy, sef dinas ddiwydiannol yn ne'r wlad.[4][5][6][7][8]
Mae'r Amgueddfa 19.2 km i ffwrdd o Katowice ac mae Warsaw yn 320.7 km. Y ddinas agosaf ydy Pszczyna Perl y Dywysoges Daisy[9] sy'n 18.8 km i ffwrdd, y maes awyr agosaf ydy Maes awyr rhyngwladol Katowice-Pyrzowice sy'n 60 km i ffwrdd.
Mae'r Amgueddfa yn aml yn rhoi eu gweithiau ar fenthyg o’r casgliad celf i arddangosfeydd dros dro ym i amgueddfeydd ac orielau eraill i gyrraedd cynulleidfa newydd a chynyddu bri.[2][10][11][12]
Gwobrau presennol
Ymhlith y gwobrau mae wedi'u hennill y mae: yn 2021 Medal Teilyngdod Diwylliant a Addurn Aur Teilwng ar gyfer y Diwydiant Adeiladu ac yn 2020 Yr Addurn Aur er Anrhydedd Teilwng ar gyfer Voivodeship Silesia.[13]
Y casgliadau
Mae'r casgliadau'n mae tua 973 pob math o wrthrychau a chelfweithiau i gyd o orffennol nghanolbarth Ewrop, De America a gweddill y byd mae'n cynnwys nifer o cerfluniau, paentiadau, ddarluniau, brasluniau a lluniau ar raddfa fechan.[8][14]
- Taras Shevchenko; 15x12 mm
- Adam Mickiewicz; 28x22 mm
- Volodymyr Zelenskyy; 22x14 mm
- Storm; 37x62 mm
- Benyw noeth; 35x17 mm